Gig ola’ Dafydd Iwan ar Lwyfan y Maes?

Dafydd Iwan

Wedi canu ym mhob un Eisteddfod ers 60 mlynedd, mae’r canwr gwerin poblogaidd Dafydd Iwan wedi cyhoeddi y bydd yn perfformio ar Lwyfan y Maes am y tro olaf ym Mhrifwyl Wrecsam. 

Bydd Dafydd a’i fand yn camu i’r llwyfan mawr nos Sul gynta’r Eisteddfod i ganu rhai o’i hoff ganeuon ac, efallai, rhai eraill na chlywir mohonynt yn aml. 

Dywedodd, “Mae’n rhaid tynnu’r llinell yn rhywle, ac rwy’n edrych ymlaen at fwynhau sawl Steddfod eto o’r seddau cefn!” 

Ond pwysleisiodd Dafydd na fydd yn rhoi’r gorau i ganu’n gyfan gwbl. 

“Rwy’n gwybod ei fod yn dipyn o jôc fy mod i am roi’r gorau i ganu,” meddai.

“Dwi wedi bod yn trïo ymddeol ers blynyddoedd. Ond rhoi’r gorau i ganu gyda’r band ydw i. 

“Peidiwch â chamddeall, rwy’n mwynhau canu gyda’r band. Rydw i’n cael hwyl rhyfeddol yn canu gyda nhw tu ôl i mi, ond teimlais ei bod yn briodol yn awr i roi’r gorau i’r nosweithiau mawr. 

“Mae’n dechrau mynd yn fwrn – y nosweithiau hwyr a’r holl drefniadau i gael pawb ynghyd – felly ar ôl mis Awst, canu ar ben fy hun i gyfeiliant y gitâr, rhyw fath o sgwrs a chân, fyddai’n wneud,” meddai. 

‘Cofiadwy’

Mae Dafydd yn benderfynol o wneud yn siŵr bod y perfformiad olaf ar Lwyfan y Maes yn un cofiadwy. 

“Rwy wedi mwynhau perfformio ar Lwyfan y Maes, ac mae gennyf atgofion hapus iawn pan ddaeth torf enfawr i’r Maes yn Nhregaron,” meddai.

“Hon oedd yr Eisteddfod gyntaf ar ôl pandemig y coronafeirws, a’r cyntaf ar ôl i Gymru frwydro drwodd i rowndiau terfynol Cwpan y Byd. 

“Roedd nifer fawr o bobl ifanc yn y gynulleidfa, ac roeddynt yn gwybod y geiriau i’m caneuon. Roedd yn achlysur arbennig iawn sy’n aros yn fyw yn y cof,” meddai Dafydd. 

Wrth hel atgofion am Eisteddfodau’r gorffennol, dywedodd Dafydd mai yr un cyntaf iddo berfformio ynddi oedd Eisteddfod Genedlaethol y Drenewydd yn 1965. 

“Roedd honno’n Eisteddfod gofiadwy. Am ryw reswm roeddwn yn aros mewn ysgol ym Machynlleth. 

“Roedd gwlâu cynfas wedi’u gosod mewn dosbarthiadau, ac roedd pobl yn cysgu yn yr ystafelloedd. 

“Ymhlith y rhai oedd yno oedd Waldo Williams ac Eirwyn Pontshân. 

“Perfformiadau anffurfiol ac answyddogol oedd y rhai yn y Drenewydd. Canu ar ’mhen fy hun i gyfeiliant gitâr yn unig o amgylch Maes yr Eisteddfod. 

“Rhywbeth digon tebyg fu hi am rai blynyddoedd. Y patrwm yn y Pafiliwn bryd hynny oedd cyngerdd clasurol wedi i’r cystadlu ddod i ben am y diwrnod. 

“Gwelais gyfle, gydag eraill, i drefnu rhywbeth mwy arbrofol, a defnyddio’r Pafiliwn i gynnal nosweithiau llawen a chymanfaoedd canu gwerin ar ôl y cyngerdd. 

“Yn Eisteddfod Rhydaman yn 1970, fe drefnwyd rhywbeth ychydig yn wahanol. Peintio’r Byd yn Wyrdd oedd teitl sioe o ganeuon â rhyw fath o stori ynddynt, a hynny’n hwyr yn y Pafiliwn. 

“Roedd ’na broblemau yn sicr gyda’r Pafiliwn yn oer, ond gan fod y peth yn newydd roedd y lle’n llawn, a chawsom lawer o hwyl.”

Baledi

Ar ddechrau’r 70au, roedd Cymdeithas yr Iaith yn trefnu nosweithiau cerddorol i bobl ifanc, a chymerodd Dafydd ran yn nifer o’r rhain. 

Un o’r enwocaf o’r nosweithiau hyn oedd Tafodau Tân ym Mhafiliwn Corwen yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhuthun yn 1973. 

Recordiwyd y noson honno gan Gwmni Recordiau Sain, ac mae pedwar o ganeuon Dafydd ar y record – y gân werin ‘Mi Welais’, ac yn ddiweddglo i’r noson, ‘Y Wên Na Phyla Amser’, ‘Pam Fod Eira yn Wyn?’ a’r anthemig ‘I’r Gad’. 

Ers hynny mae Dafydd wedi ysgrifennu llawer o faledi anthemig, a llawer o ganeuon dychanol gydag ymyl wleidyddol. 

Ac er na fydd Dafydd a’r band yn perfformio ar Lwyfan y Maes y flwyddyn nesaf, meddai, yn sicr mi fydd ei gerddoriaeth Yma O Hyd!

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.