Cau bwyty ym Mhort Talbot oherwydd amodau 'mochaidd'
Mae bwyty tecawê Indiaidd ym Mhort Talbot wedi gorfod cau ar ôl i swyddogion iechyd amgylcheddol ddarganfod pla byw o chwilod duon (cockroaches) yno.
Dywedodd swyddogion fod amodau "mochaidd o frwnt" ym mwyty Mirchi Masalla yn ardal Tai-bach, ac roedd ar fin dod yn risg i iechyd cyhoeddus.
Ar 21 Gorffennaf, cyhoeddodd Swyddogion Iechyd Amgylcheddol o adran Diogelwch Bwyd a Gwarchod Iechyd Cyngor Castell-nedd Port Talbot Hysbysiad Gwahardd Brys Hylendid wrth ymweld â'r busnes.
Roedd hynny'n golygu fod yn rhaid cau'r bwyty i'r cyhoedd ar unwaith.
Fe gyflwynodd swyddogion dystiolaeth yn dilyn hynny i Ynadon Abertawe yn sgil yr amodau a gafodd eu darganfod yn y bwyty.
Fe wnaeth yr Ynadon ddarparu Gorchymyn Gwahardd Brys Hylendid i gadarnhau y byddai angen cadw'r bwyty, a oedd cyn hynny ar agor saith diwrnod yr wythnos, ar gau.
Bydd y bwyty yn parhau yn ar gau nes i safonau gael eu gwella, a bod yr awdurdod wedi ei fodloni fod y risg wedi ei ddileu.
Mae gweithredwr y busnes yn gweithio gyda'r awdurdod ar hyn o bryd i wneud y gwelliannau anghenrheidiol yn ôl Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Gweithredodd ein swyddogion ar fyrder i atal y busnes bwyd hwn rhag gweithredu er mwyn gwarchod y cyhoedd, yr oedd eu hiechyd yn cael ei roi mewn perygl.
“Mae swyddogion bellach yn monitro’r sefyllfa i sicrhau fod y gorchymyn yn cael ei gynnal, ac ni fydd y busnes yn ailagor hyd nes y bydd yr awdurdod hwn yn fodlon fod unrhyw risg sydd ar fin digwydd i iechyd y cyhoedd wedi’i ddileu.”