Ar ôl goroesi nosweithiau digartref yn cysgu yn sedd gefn ei gar, mae un myfyriwr newydd raddio â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf o Brifysgol Abertawe - gan ddefnyddio ei brofiad bywyd i helpu i drawsnewid polisi tai.
O ddigartrefedd i ddarlithoedd: Taith myfyriwr yn dylanwadu ar bolisïau tai
Yn 2014, gadawodd Mark Eaton-Lees, cyn-weithiwr recriwtio yn wreiddiol o Wolverhampton, ei swydd i wireddu ei freuddwyd: lansio canolfan sgwba-blymio yn Nyfnaint.
Daeth o hyd i ystafell i'w rhentu, ond pan ddaeth y diwrnod symud, newidiodd ei gynlluniau'n llwyr - ac nid oedd yr ystafell ar gael iddo.
Heb unrhyw lety a chynilion bychan iawn, nid oedd gwesty'n opsiwn. Yr unig beth ar ôl oedd ei gar.
Dywedodd Mark: "Des i o hyd i faes parcio bwyty am ddim yng Nghaerwysg, prynais glustog a duvet a chysgais yn fy Volkswagen Polo."
Yn llawn cywilydd ac yn ofn o gael ei ganfod, byddai Mark yn codi am 6:00 bob bore ac ni fyddai'n dychwelyd nes yn hwyr yn y nos.
Heb ddillad glan na chyfleusterau, roedd cyflwyno ceisiadau am swyddi yn amhosibl.
Iechyd
Yn hytrach, dechreuodd Mark chwilio am swyddi fel gyrrwr cerbydau HGV, gyda'r gobaith o gysgu yn y cerbyd. Ond erbyn mis Ionawr, roedd ei iechyd wedi dirywio.
"Roedd yna noson pan roedd hi'n anodd codi, a phan godais, roedd gen i niwl yr ymennydd mawr," meddai. "Dwi'n eithaf siŵr mai dyma'r arwyddion cyntaf o hypothermia.
"Roedd yn ofnus, a'r adeg hynny roeddwn yn gwybod nad oedd modd i mi barhau fel yr oeddwn."
Gyda chefnogaeth ei deulu, symudodd Mark yn ôl i Wolverhampton yn fuan yn 2015 a dechreuodd weithio fel gyrrwr cludo nwyddau.
Un diwrnod wrth gludo’n agos at eglwys gadeiriol, cyfarfu â dyn ifanc digartref.
"Roedd e’n edrych mor oer ac ofnus, ond nid oedd eisiau arian," meddai Mark.
"Yr unig beth yr oedd e eisiau oedd ychydig o sefydlogrwydd - swydd a rhywle i fyw. Roedd y sgwrs honno wedi fy newid. Nid oedd ail-adeiladu fy mywyd fy hun yn ddigon. Roeddwn eisiau bod yn rhan o'r ateb."
Yn benderfynol o ddeall digartrefedd yn fanylach, cwblhaodd Mark gwrs sylfaen, ac yn 2022 dechreuodd gradd ym Mhrifysgol Abertawe.
Elusennau
Trwy gyflwyniad gan ddarlithydd, dechreuodd Mark wirfoddoli â Shelter Cymru ac elusennau eraill - gan gefnogi llinellau cymorth, cynghori byrddau, a pharatoi prydau i'r rhai hynny mewn angen.
Nesaf, bydd Mark yn mynd i Brifysgol Sheffield i gwblhau gradd meistr mewn ymchwil gymdeithasol, gan archwilio'r cysylltiad rhwng awtistiaeth a digartrefedd - maes sy'n cael ei anwybyddu'n aml yn ôl Mark.
Mae profiad Mark o ddigartrefedd wedi sbarduno ei astudiaethau - a'i benderfynoldeb i sicrhau nad yw eraill yn wynebu'r un heriau meddai Prifysgol Abertawe.
"Efallai ei fod yn swnio'n rhyfedd, ond rwy'n falch o'r profiad hwnnw. Mae'r profiad wedi dylanwadu ar bwy ydw i heddiw," meddai Mark.
"Rhoddodd Brifysgol Abertawe fwy na gradd i mi. Gwnaeth fy helpu i ddarganfod yr hyn sy'n fy ysgogi. Nawr rydw i eisiau sicrhau bod gan eraill y cyfle i ddod o hyd i'w llwybr eu hunain hefyd."
Llun: Prifysgol Abertawe