Achos Ysgol Dyffryn Aman: Aelod o' rheithgor wedi ei gyhuddo o 'fethu â datgelu cysylltiad personol'
Mae dyn wnaeth wasanaethu ar reithgor yn achos trywanu Ysgol Dyffryn Aman wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Merthyr.
Mae Christopher Elias o Waunceirch, Castell-nedd Port Talbot, wedi ei gyhuddo o "fethu â datgelu cysylltiad personol".
Cafodd ei gyhuddo mewn perthynas â diwedd achos llys cyntaf merch 14 oed oedd wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio dau athro a chyd-ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill 2024.
Yn dilyn ail achos troseddol yn gynharach eleni cafodd y ferch 14 oed, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, ei dedfrydu i 15 mlynedd o garchar ym mis Ebrill am geisio llofruddio Fiona Elias, Liz Hopkin a disgybl yn yr ysgol.
Fe fydd Christopher Elias yn ymddangos o flaen y llys eto ar 28 Awst.