Pen-y-bont ar Ogwr: Dod o hyd i ddyfeisiau ffrwydrol

Pen y Bont ar Ogwr

Mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw wedi ail-agor stryd yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl iddyn nhw ddod o hyd i ddyfeisiau ffrwydrol yno. 

Dyma’r ail dro i Stryd Brackla gael ei ail-agor ddydd Mercher gan fod dwy ddyfais o’r fath wedi eu darganfod yno mewn dau ddigwyddiad ar wahân. 

Fe gafodd Heddlu'r De eu galw am y tro cyntaf am 08.55 dydd Mercher yn dilyn adroddiad am "ddyfais ordnans oedd heb ffrwydro".

Cafodd Stryd Brackla ei chau i'r cyhoedd o Castle Bingo i lawr i gyffordd Stryd Nolton er mwyn diogelu'r cyhoedd ac roedd nifer o adeiladau wedi cael eu gwagio. 

Dywedodd y llu yn ddiweddarach eu bod nhw wedi cael gwybod bod ail ddyfais yn yr ardal am 11.35 bore Mercher gan olygu bod rhaid iddynt gau’r stryd unwaith yn rhagor.

Mae’r llu bellach wedi dweud eu bod nhw gael gwared â’r ail ddyfais erbyn hyn a bod Stryd Brackla bellach wedi ei ail-agor am yr ail dro. 

Dywedodd bod y ffordd bellach ar agor i’r cyhoedd unwaith eto.

“Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am eu hamynedd ac am eu cydweithrediad tra ein bod ni wedi bod yn delio a’r ddau ddigwyddiad bore ‘ma,” medden nhw mewn datganiad.

Ymhlith yr adeiladau a gafodd eu gwagio ddydd Mercher roedd Aldi, Asda, Brackla House, Energie Fitness a chanolfan siopau Stryd Brackla.

Cafodd safle adeiladu yn Cheapside hefyd ei gwagio meddai'r heddlu.

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.