
Ymuno â chlwb rygbi gallu cymysg wedi 'trawsnewid' bywyd dyn ifanc gydag awtistiaeth
Mae dyn ifanc gydag awtistiaeth wedi dweud bod ymuno â chlwb rygbi gallu cymysg yn Sir Conwy wedi "trawsnewid" ei fywyd.
Dywedodd Dylan Evans, 23, o Waunfawr ger Caernarfon, fod ganddo ddiddordeb mewn chwaraeon erioed ond bod diffyg hyder oherwydd ei awtistiaeth wedi wedi ei ddal yn ôl.
Fe wnaeth ymuno â chlwb Stingrays Bae Colwyn, a gafodd ei sefydlu gan gyn seren Cymru a Llanelli, Scott Quinnell, roi cyfle iddo fentro meddai.
"Roeddwn i'n gweld fy mod i'n dda mewn rygbi ac yn gwneud ffrindiau newydd ac roeddwn i'n mwynhau mynd i gemau," meddai.
Cafodd y cyfle i ymddangos ar raglen S4C, Stryd i'r Sgrym, cyfres a ddilynodd Quinnell, wrth iddo greu tîm newydd o'r dechrau.
"Yn ystod y ffilmio fe wnaethon ni gwrdd hefo rhai o chwaraewyr Cymru, fel cyn chwaraewr Cymru a Llanelli Scarlets, Ken Owens, a hyd yn oed y cyn hyfforddwr Warren Gatland wrth hyfforddi hefo tîm Cymru," meddai Dylan.
"Fe wnaethon ni chwarae yn Llundain ac ennill - mi oedd yn wych."
'Teimlad o berthyn'
Mae'r tîm yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac mae'n gysylltiedig hefo clwb rygbi Bae Colwyn, ac yn hyfforddi ac yn chwarae ar eu cae yn Llandrillo-yn-Rhos.
Dywedodd rheolwr y tîm, Dafydd Curry, swyddog i Heddlu'r Gogledd, fod y clwb wedi ei ffurfio tua chwe blynedd yn ôl a bod croeso i bawb.
"'Da ni'n griw cymysg o bobl. Mae yna rai fel fi, a allai gael eu galw'n gyn chwaraewyr ond nad ydyn nhw eisiau rhoi'r gorau iddi eto," meddai.
"Mae yna rai sydd dros 60 oed. Yna mae yna rai sy'n ddigartref neu'n ddi-waith a rhai sy'n byw hefo cyflyrau fel Syndrom Down, awtistiaeth ac ADHD."
Fe aeth ymlaen i egluro bod y tîm yn chwarae rygbi cyswllt am 80 munud yn erbyn y timau yng Nghymru a rhai dros y ffin yng ngogledd-orllewin Lloegr.
"Mae hynny'n golygu teithiau hir mewn bysiau mini, ond dydyn ni ddim yn rhoi gormod o bwyslais ar y canlyniadau wrth i'r teithio ychwanegu at y teimlad o berthyn ac integreiddio ymhlith y chwaraewyr," meddai.
"Mae'r cyfeillgarwch yno i bawb ei weld ac mae'n wych gweld sut mae personoliaeth pob chwaraewr yn datblygu wrth i ni fod hefo ni'n hirach."
Yn ystod y misoedd diwethaf mae Dylan wedi bod yn helpu sesiynau gweithgareddau chwaraeon wythnosol yng Nghanolfan Addysg y Bont yn Llangefni ac yng ngemau cartref Rygbi Gogledd Cymru ym Mharc Eirias.

Dywedodd mam Dylan, Jackie, ei bod yn hapus i weld y newid yn ei mab.
"Mae wedi bod hefo diddordeb mewn chwaraeon erioed ond roedd hefyd yn eithaf swil, felly mae ymwneud hefo'r Stingrays wedi bod yn wych iddo," meddai.
Fe wnaeth Dylan adrodd ei stori yn ystod cyflwyno grant o £1,500 gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru (PACT), gan ddefnyddio arian a gymrwyd oddi ar droseddwyr.
Mae PACT yn canolbwyntio ar ddarparu cyllid i grwpiau cymunedol a gwirfoddol ar gyfer cynlluniau sy'n gwella ansawdd bywyd pobl drwy leihau troseddau.
Dros y chwarter canrif ddiwethaf, mae dros 3,500 o brosiectau ar draws cymunedau ym mhob sir yng ngogledd Cymru wedi elwa o gyllid gan y sefydliad.
Mae'r cyllid wedi galluogi Stingrays Bae Colwyn i brynu cit, esgidiau rygbi a siacedi dal dŵr ar gyfer eu 39 aelod.
Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: "Y Stingrays oedd y tîm gallu cymysg cyntaf yng Ngogledd Cymru a 'da ni'n falch iawn o'u helpu nhw.
"Maen nhw'n gynhwysol iawn ac mae'n bwysig bod pob aelod o'r gymuned yn gallu cael mynediad at chwaraeon ac mae PACT yn falch o fod yn rhan o hynny.
"Mae clywed am y gwahaniaeth gwirioneddol y mae'n ei wneud i fywydau'r chwaraewyr yn tanlinellu pwysigrwydd helpu'r Stingrays.
"Mae Dylan a'r holl chwaraewyr eraill yn ysbrydoliaeth fawr - maen nhw'n bobl y gallwn ni i gyd ddysgu oddi wrthyn nhw."