Wynne Evans yn cyhuddo Strictly o ddyletswydd gofal 'sylfaenol ddiffygiol'
Mae'r canwr opera a'r cyflwynydd Wynne Evans wedi cyhuddo rhaglen Strictly Come Dancing y BBC o fod yn "sylfaenol ddiffygiol yn ei ddyletswydd gofal".
Fe wnaeth y tenor o Gaerfyrddin gystadlu yng nghyfres pen-blwydd 20 mlynedd y rhaglen ddawnsio boblogaidd gyda'r ddawnswraig Katya Jones.
Ym mis Mai, cyhoeddodd Evans nad oedd y BBC am barhau i'w gyflogi ac na fyddai'n cyflwyno ei raglen ar BBC Radio Wales ar ôl ymddiheuro am wneud sylw "amhriodol ac annerbyniol" wrth lansio taith Strictly Come Dancing.
Daeth yr ymddiheuriad ar ôl i'r Mail On Sunday adrodd ym mis Ionawr ei fod wedi anelu jôc o natur rywiol at y ddawnswraig Janette Manrara.
Mewn neges ar Instagram gyda llun o weithwyr proffesiynol Strictly, dywedodd Evans: "Sut deimlad ydi gweld lluniau o Strictly?
"Fi fydd y cyntaf i gyfaddef fy mod i wedi gwneud camgymeriadau. Nid yn union fel byddai’r Daily Mail yn eich annog i gredu, ond camgymeriadau serch hynny."
Mae Evans wedi cyhuddo'r BBC o gymryd rhan mewn cyfres o "gelwyddau a chuddio er mwyn eu rhyddhau eu hunain o unrhyw gamwedd".
Ychwanegodd: "O’m trafodaethau ar y brig gyda Tim Davie [chyfarwyddwr cyffredinol y BBC], trwy BBC Cymru a’r adran adnoddau dynol, mae un teimlad wedi bod yn gyson: yr unig beth maen nhw wir yn poeni amdano yw amddiffyn eu hunain a’u swyddi a’u graddfeydd – mae pobl yn dod yn ail i hynny.
"Pan nes i gamu i mewn i’r ystafell ymarfer yn Strictly am y tro cyntaf, roeddwn i’n meddwl y byddai’n brofiad hudolus. Ac ar y dechrau, mi oedd o.
"Ond y peth cyntaf a ddywedwyd wrtha i oedd: 'Peidiwch ag ymddiried yn unrhyw un yn yr ystafell hon – dim hyd yn oed fi.'
"Fe wnaeth hynny fy nharo i'n galed iawn. Rydw i bob amser wedi dangos fy nheimladau yn agored ac er fy mod i'n agos iawn at groesi'r llinell weithiau, nid oes byth unrhyw falais yn yr hyn rwy’n ei wneud.
"Yr hyn nad oeddwn wedi paratoi ar ei gyfer oedd y ffordd y bydd pobl yn amddiffyn eu brandiau personol a brandiau’r BBC, a hynny ar unrhyw gost."
'System wedi torri'
Yn ei neges ar Instagram, fe wnaeth Evans honni fod adran adnoddau dynol y BBC wedi "gwyrdroi ffeithiau, dyfeisio ffeiliau a dyddiadau, a chreu fersiwn o ddigwyddiadau nad oedd yn wir o gwbl".
"Cyhoeddwyd datganiadau yn fy enw i nad oeddwn hyd yn oed wedi’u gweld, heb sôn am gytuno â nhw. Fe gafodd fy llais ei gymryd i ffwrdd," meddai.
Dywedodd Evans yn flaenorol nad oedd erioed wedi cymeradwyo’r datganiad a gyhoeddwyd gan y BBC ym mis Ionawr lle ymddiheurodd am wneud sylw "amhriodol ac annerbyniol".
Ar y pryd, dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Cafodd yr ymddiheuriad a gyhoeddwyd ar ran Wynne gan gynrychiolydd cysylltiadau cyhoeddus Taith Strictly Come Dancing ddydd Sadwrn 25 Ionawr ei gymeradwyo’n llawn gan Wynne."
Dywedodd Evans hefyd yn ei neges ddydd Mawrth: "Fe wnaeth Tim Davie addo'n gyhoeddus y byddai’r BBC yn diogelu pobl a gymerodd ran yn Strictly.
"Roeddwn i'n meddwl am yr addewid hwnnw wrth eistedd mewn swyddfa seiciatrydd ger y BBC, yn syllu allan o’r ffenestr ar adeilad y BBC, yn ymladd i achub fy mywyd fy hun. Dyna pa mor agos y des i at yr ymyl.
"Dydw i ddim yn ysgrifennu hyn fel dioddefwr, fel y dywedais, byddaf yn cyfaddef fy nghamgymeriadau. Rwy’n ei ysgrifennu oherwydd bod y system wedi torri.
"Mae Strictly bellach yn sylfaenol ddiffygiol yn ei ddyletswydd gofal. Mae'n cael parhau oherwydd ei boblogrwydd, tra bod lles pobl yn cael ei adael yn ddarnau."
Fe wnaeth Evans berfformio ym mhen-blwydd The Phantom Of The Opera yn 25 oed ac fe enillodd Celebrity MasterChef yn 2023.
Ym mis Mai, dywedodd wrth bapur newydd The Sun nad oedd y sylw a wnaeth ar daith Strictly Come Dancing o natur rywiol nac yn cyfeirio at un o aelodau benywaidd o'r cast, ond yn hytrach yn llysenw ar gyfer cystadleuydd arall, yr actor Jamie Borthwick o EastEnders.
Ym mis Mehefin, cyhoeddodd y canwr opera ei fod yn dychwelyd i'r radio gyda rhaglen ei hun, The Wynne Evans Show.
Mae'r BBC wedi gwrthod ymateb i'r sylwadau yn neges Mr Evans ar y cyfryngau cymdeithasol.
Llun: Ray Burmiston / BBC