Penodi menyw fel Seryddwraig Brenhinol am y tro cyntaf erioed
Mae gwyddonydd sydd wedi bod yn arloesol gyda'i gwaith am y gofod wedi ei phenodi fel y fenyw gyntaf i fod yn Seryddwraig Brenhinol.
Mae'r Athro Michele Dougherty wedi cael ei phenodi i'r rôl, teitl sydd wedi bodoli ers 350 o flynyddoedd.
Fel un o'r ymchwilwyr sydd yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn y gofod, mae ei gwaith wedi dangos bod posibilrwydd o fywyd ar un o leuadau Sadwrn.
Yn ôl yr Athro Dougherty, ei gobaith yw "dangos i'r cyhoedd pa mor gyffrous yw seryddiaeth, a pha mor bwysig ydy o a'r canlyniadau ar ein bywydau bob dydd."
Cafodd y rôl ei chreu yn 1675 gyda'r nod o ddarganfod sut i fesur hydred (longitude) ar y môr pan allan o gyrraedd y tir.
Mae nawr yn deitl anrhydeddus sydd yn cael ei rhoi i seryddwr blaenllaw a fydd yn rhoi cyngor i'r brenin ar faterion astronomeg.
Dywedodd yr Athro Dougherty: "Dwi wrth fy modd cymryd y rôl bwysig yma o Seryddwraig Brenhinol.
"Yn blentyn bach fydden ni i byth wedi credu y bydden ni yn gwneud teithiau i'r gofod ac yn y byd gwyddonol, felly dwi'm cweit yn gallu credu fy mod i yn dechrau'r swydd yma."
Yr Arglwydd Martin Rees sydd gyda'r teitl ar hyn o bryd ond mae'n ymddeol o'r rôl.
Llun: Imperial College London