
'Y cryfaf mewn degawdau': Rhybudd swnami wrth i ddaeargryn nerthol daro dwyrain Rwsia
Mae rhybudd swnami wedi cael ei gyhoeddi dros ran helaeth y Môr Tawel ar ôl i ddaeargryn nerthol daro arfordir dwyreiniol Rwsia.
Fe wnaeth y daeargryn, a oedd yn mesur 8.8 ar y raddfa Richter, daro Penrhyn Kamchatka y wlad tua 11.25 amser lleol bore dydd Mercher.
Mae tonnau hyd at 3-4 metr o uchder wedi cael eu hadrodd yn Kamchatka, gyda thonnau 30cm wedi taro dinas Hokkaido yng ngogledd Japan.
Dywedodd llywodraethwr Kamchatka, Vladimir Solodov: "Roedd daeargryn heddiw yn ddifrifol a'r cryfaf mewn degawdau o safbwynt cryndod."
Yn dilyn y daeargryn mae rhybuddion swnami wedi cael eu cyhoeddi yn Japan, Ynysoedd y Philipinau, Hawaii a rhannau o Alaska yn yr Unol Daleithiau.
Yn Japan mae mwy na 1.9 miliwn o bobl wedi cael gorchmynion i adael eu cartrefi.
Mae tua 10,500 o'r bobl hyn yn Hokkaido, lle mae lluniau yn y cyfryngau lleol yn dangos pobl yn ymgynnull ar ben to.
Mae tonnau swnami "bellach yn effeithio ar Hawaii", meddai Canolfan Rhybuddio Swnami'r Môr Tawel.
"Dylid cymryd camau brys i amddiffyn bywydau ac eiddo," ychwanegodd, gan rybuddio y gallai'r perygl barhau am oriau.
Roedd Josh Green, llywodraethwr Hawaii, eisoes wedi gofyn i bobl yr ynys i "beidio â chynhyrfu" a symud i dir uwch.
"Os ydych chi mewn lle diogel, arhoswch yno, ac os nad ydych chi, ewch i dir uwch," meddai.
'Dim anafiadau difrifol'
Fe gafodd nifer o bobl yn nwyrain Rwsia eu hanafu ar ôl daeargryn fore Mercher, yn ôl adroddiad gan asiantaeth newyddion TASS y wlad.
Fe wnaeth rhai ddioddef anafiadau wrth adael ardal Kamchatka, gan gynnwys menyw a neidiodd allan o ffenestr.

Mae gweinidog iechyd y rhanbarth, Oleg Melnikov, wedi dweud eu bod nhw i gyd "mewn cyflwr boddhaol".
"Nid oes unrhyw anafiadau difrifol wedi'u hadrodd ar hyn o bryd," meddai.
Yn y cyfamser mae rhanbarth Sakhalin Rwsia wedi datgan cyflwr o argyfwng yng ngogledd Ynysoedd Kuril.
Dywedodd y Maer Alexander Ovsyannikov fod "pawb" yn yr ardal wedi cael eu symud o'r ardal.
"Roedd digon o amser, awr gyfan. Felly cafodd pawb eu symud, mae'r holl bobl yn y parth diogelwch swnami," meddai, yn ôl adroddiad AFP.
Lluniau: Reuters