
Beth oedd y ffilmiau a rhaglenni teledu mwyaf poblogaidd yng Nghymru y llynedd?
Gavin & Stacey ar BBC One ac iPlayer oedd y rhaglen deledu a wyliwyd fwyaf yng Nghymru yn 2024, gyda 1.6m o wylwyr, yn ôl adroddiad newydd gan Ofcom.
Moana Sing Along ar Disney+ oedd nesaf (1.1m), gyda Sing ar Netflix yn dilyn (926k).
Mr Bates vs The Post Office ar ITV oedd yn y pedwerydd safle gydag 881l o wylwyr ar gyfer yr ail bennod.
The deg uchaf yn 2024 oedd:
- Gavin & Stacey: The Finale - BBC - 1,618,000 o wylwyr
- Moana: Sing Along - Disney+ - 1,150,000
- Sing - Netflix – 926,000
- Mr Bates vs The Post Office, Pennod 2 - ITV – 881.000
- Wallace & Gromit: Vengeance Most Fowl - BBC - 824,000
- Bluey, Cyfres 3, Pennod 49 - Disney+ - 821,000
- Elemental - Disney+ - 736,000
- The Grinch - Netflix - 711,000
- Sing 2 – Netflix- 698,000
- Frozen: Sing-Along - Disney+ - 685,000
Cymru oedd yr unig ran o’r DU lle’r oedd gwylio teledu darlledu ar gynnydd y llynedd, yn ôl yr adroddiad Ofcom.
Treuliodd pobl ddwy awr 46 munud y dydd ar gyfartaledd yn gwylio teledu darlledu ar set deledu, cynnydd bach o bedair munud ers 2023.
Roedd gostyngiad cyffredinol mewn gwylio teledu darlledu ar set deledu draddodiadol ledled y DU, wedi ei yrru'n bennaf gan Loegr lle gostyngodd chwech y cant i ddwy awr a 23 munud.
Er gwaetha’r cynnydd bychan mewn gwylio teledu darlledu, roedd cynnydd yn nifer y bobl oedd yn troi at deledu ffrydio hefyd.
Treuliodd pobl yng Nghymru 50 munud y dydd yn gwylio gwasanaethau ffrydio, fel Netflix a Disney+, yn fwy nag mewn unrhyw genedl arall, a thair munud yn hirach na'r llynedd.
Am y tro cyntaf, roedd saith o'r 10 rhaglen a wyliwyd fwyaf yng Nghymru ar wasanaethau ffrydio.

Darlledwyr cyhoeddus
Roedd nifer cynyddol o bobl hefyd yn dweud eu bod yn fodlon â'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.
Dywedodd tri o bob pump (62 y cant) sy'n gwylio rhaglenni gan y BBC, ITV ac S4C er enghraifft, eu bod yn fodlon â darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn gyffredinol y llynedd, ychydig yn uwch na'r flwyddyn flaenorol (60 y cant yn 2023).
Dywedodd tua dau draean (65%) y gwylwyr yng Nghymru eu bod yn fodlon ar S4C, gyda chyfran debyg (63%) yn dweud yr un peth am S4C Clic.
Dywedodd dau draean (66%) y gwylwyr yng Nghymru fod S4C wedi darparu “rhaglenni sy'n cynnwys Cymru’ yn dda, ac mae tua pedwar o bob pump (83%) yn dweud yr un peth am S4C Clic.
Mae dros hanner (54%) yn dweud bod S4C yn darparu ‘rhaglenni rhanbarthol sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi am fy ardal’.
Credir bod S4C Clic (63%) ac S4C (51%) hefyd yn darparu ‘rhaglenni sy’n wahanol i ddarparwyr eraill o ran y ffordd maen nhw’n ymdrin â phethau’ yn dda.

Radio Cymru
Gwelodd BBC Radio Cymru gynnydd bach yn ei gyrhaeddiad dros y flwyddyn ddiwethaf, o 112.7k o wrandawyr yr wythnos yn chwarter cyntaf (Ch1) 2024 i 116.9k yn chwarter cyntaf (Ch1) 2025, yn ôl Ofcom.
Digwyddodd hyn ar yr un pryd â symudiad tuag at wrandawyr iau.
Yn Ch1 2024 roedd ychydig o dan hanner gwrandawyr BBC Radio Cymru (46 y cant) yn 65 oed a hŷn, ond gostyngodd hyn i lai na thraean (31 y cant) yn Ch1 2025.
Yn yr un cyfnod, cynyddodd cyfran y gwrandawyr 15-24 oed bron â phedair gwaith, o 3 y cant i 11 y cant.
Mae'r gwrthwyneb yn wir am gynulleidfa BBC Radio Wales, a aeth o fod ag ychydig dros ddwy ran o dair o'i gwrandawyr 65 oed a hŷn (67 y cant) yn Ch1 2024 i ychydig o dan dri chwarter (73 y cant) yn Ch1 2025.
Mae'r newid hwn yn cael ei adlewyrchu yn oedran cyfartalog gwrandawyr yr orsaf; mae gwrandäwr cyfartalog BBC Radio Cymru bellach yn 52 oed (i lawr o 58 yn Ch1 2024) a gwrandäwr cyfartalog BBC Radio Wales yw 61 (i fyny o 60 yn Ch1 2024).