Cyngerdd Syr Bryn Terfel i fynd ar daith er cof am gyfansoddwr 'anhygoel'
Cyngerdd Syr Bryn Terfel i fynd ar daith er cof am gyfansoddwr 'anhygoel'
Mae’r canwr opera Syr Bryn Terfel wedi dweud y bydd yn mynd ar daith gyda chyngerdd sydd yn dathlu “gwaith anhygoel” y cyfansoddwr Meirion Williams.
Nos Lun fe gafodd cyngerdd ei gynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu Adran Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd Prifysgol Aberystwyth.
Roedd Meirion Williams, gafodd ei eni yn Nyffryn Ardudwy yn 1901, yn fyfyriwr yn Adran Gerddoriaeth y brifysgol yn ystod yr 1920au cynnar.
Fe wnaeth Syr Bryn ymuno gyda’r Archdderwydd Mererid Hopwood, y pianydd Zoe Smith, yn ogystal â chriw o fyfyrwyr fel rhan o’r cyngerdd i’w ddathlu nos Lun.
Ac mewn cyfweliad gyda rhaglen deledu Heno ar S4C, fe ddywedodd Syr Bryn y bydd y cyngerdd bellach yn mynd ar daith.
“Fe wnaethpwyd y cyngerdd yma yng Ngholeg Cerdd Frenhinol yng Nghaerdydd oherwydd y’n awch i gyfansoddwyr Cymreig, beirdd Cymreig yn cael eu perfformio gan y to ifanc cerddorol sydd gennym ni,” meddai.
“Noswaith sydd wedi anelu yn bwrpasol tuag at Meirion Williams ydy hi a’r cyfansoddwyr o’i gwmpas o yn cael eu plethu o fewn y noswaith.
“Ond mae’n ymddengys bod y cyngerdd yn mynd ar daith,” esboniodd.
Roedd Syr Bryn Terfel a’r Archdderwydd Mererid Hopwood wedi camu i’r llwyfan i berfformio yn y cyngerdd o’r enw Pan ddaw’r nos am y tro cyntaf ym mis Tachwedd, a hynny ar y cyd gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
“Da ni yn Aberystwyth a Mererid oedd â’r diddordeb wrth gwrs i ddod a fo yma i’r neuadd arbennig yma a ‘da ni’n eithaf bodlon i ddangos unwaith yn rhagor deunydd gwaith anhygoel Meirion Williams,” meddai Syr Bryn cyn ei berfformiad nos Lun.