Pedwar wedi eu lladd ar ôl saethu mewn swyddfeydd yn Efrog Newydd

Saethu yn Efrog Newydd

Mae dyn wedi lladd pedwar o bobl gan gynnwys swyddog yr heddlu ar ôl eu saethu mewn swyddfeydd yn Efrog Newydd.

Mae'r awdurdodau yn dweud mai Shane Devon Tamura, 27 oed o Las Vegas oedd y saethwr.

Fe fuodd e farw ar ôl iddo saethu ei hun yn ei frest, medd comisiynydd heddlu Efrog Newydd, Jessica Tisch.

Roedd gan Mr Tamura hanes o ddioddef gyda’i iechyd meddwl ac mae ‘na gofnod o hynny, meddai.

Yn ogystal â’r rheiny a gafodd eu lladd, fe gafodd dyn ei anafu yn ystod yr ymosodiad ac mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn adeilad ‘skyscraper’ yn 345 Park Avenue yng Nghanol Manhattan.

Mae’r adeilad yn gartref i nifer o swyddfeydd gan gynnwys prif swyddfeydd y cwmni buddsoddi Blackstone a'r Gynghrair Bêl-droed Genedlaethol (NFL).

Fe ddywedodd y gwasanaeth tân fod y gwasanaethau brys wedi cael gwybod am ddigwyddiad yn ymwneud ag achos o saethu am tua 18.30 amser lleol ar nos Lun (23.30 amser Prydeinig).

Mae’r awdurdodau wedi cyhoeddi mai Didarul Islam oedd enw'r swyddog heddlu a gafodd ei ladd. 

Roedd yn briod gyda dau o blant ac roedd ei wraig yn feichiog gyda’u trydydd plentyn, medd Ms Tisch mewn cynhadledd i’r wasg.

Mae’r heddlu yn Efrog Newydd (‘NYPD’) wedi rhoi teyrnged iddo gan ddweud y byddant yn ei “anrhydeddu” am byth. 

“Roedd yn amddiffyn pobl Efrog Newydd rhag perygl pan gafodd ei fywyd ei dorri’n fyr yn drasig.” 

Fe ddywedodd yr heddlu y byddant yn cyd-weddïo yn ystod y cyfnod hwn sydd yn un llawn "poen annealladwy.” 

Llun: Reuters

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.