Cyhuddo pedwar yn dilyn tân mewn tŷ yn y Rhondda
Mae pedwar o bobl wedi cael eu cyhuddo yn dilyn tân mewn tŷ yn y Rhondda fore Llun.
Cafodd yr heddlu eu galw am tua 01.30 ddydd Llun i dŷ ar Stryd Protheroe yng Nglynrhedynog.
Mae Auryn Gustar, 19, Connor Pitt, 23, a Storm Truman, 19, wedi cael eu cyhuddo o losgi bwriadol gyda bwriad i beryglu bywyd.
Mae Alfie Wheeler, 18, wedi cael ei gyhuddo o losgi bwriadol gyda bwriad i beryglu bywyd, a bod â llafn yn ei feddiant.
Mae'r pedwar yn dod o ardal Weston-super-Mare yng Ngwlad yr Haf.
Dywedodd Heddlu De Cytmru eu bod nhw'n parhau yn y ddalfa.