'Angen mwy o weithredu i atal newyn ac argyfwng iechyd trychinebus yn Gaza'

Plant yn disgwyl am fwyd yn Gaza

Mae Israel wedi cytuno i gefnogi "wythnos o gynnydd mewn cymorth" yn Gaza.

Er hyn mae'r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio bod angen mwy o weithredu i "atal newyn ac argyfwng iechyd trychinebus".

Daw'r sylwadau gan bennaeth cymorth y Cenhedloedd Unedig, Tom Fletcher.

Mae Israel wedi dechrau cyfnod o seibiant yn yr ymladd ar draws tair ardal o Gaza am 10 awr y dydd i fynd i'r afael â'r sefyllfa ddyngarol sy'n gwaethygu yno.

Fe wnaeth Israel dorri'r holl gyflenwadau i boblogaeth Gaza o ddechrau mis Mawrth, gan ailagor canolfannau cymorth gyda chyfyngiadau newydd ym mis Mai.

Ond dywedodd Israel fod yn rhaid iddyn nhw reoli'r cyflenwadau er mwyn atal swyddogion Hamas rhag eu dwyn.

Ddydd Sadwrn, dywedodd adroddiadau sy'n cyfeirio at ddata llywodraeth yr Unol Daleithiau nad oes unrhyw dystiolaeth bod Hamas wedi bod yn dwyn cymorth.

Dywedodd Mr Fletcher nad yw un o bob tri o bobl yn Gaza "wedi bwyta ers dyddiau" a bod "plant yn gwywo".

'Angen symiau enfawr'

"Rydym yn croesawu penderfyniad Israel i gefnogi wythnos o gynnydd mewn cymorth, gan gynnwys codi rhwystrau tollau ar fwyd, meddyginiaeth a thanwydd o'r Aifft a'r adroddiadau am ddynodi llwybrau diogel ar gyfer confois dyngarol y Cenhedloedd Unedig," meddai.

"Mae'n ymddangos bod rhai cyfyngiadau symud wedi cael eu llacio heddiw, gydag adroddiadau cychwynnol yn nodi bod dros 100 o lwythi wedi'u casglu gan dryciau.

"Mae hyn yn gynnydd, ond mae angen symiau enfawr o gymorth i atal newyn ac argyfwng iechyd trychinebus."

Dywedodd Lluoedd Amddiffyn Israel ddydd Sul eu bod yn rhoi'r gorau i ymladd ym Muwasi, Deir al Balah a Dinas Gaza bob dydd rhwng 10.00 a 20.000 am y tro.

Er hynny mae'r ymladd wedi parhau yn yr ardaloedd y tu allan i'r ffenestr 10 awr hon. 

Dywedodd swyddogion iechyd yn Gaza fod ymosodiadau Israel wedi lladd o leiaf 41 o Balesteiniaid dros nos hyd at fore Sul, gan gynnwys 26 yn ceisio cymorth.

Daw hyn wedi i 221 o aelodau seneddol yn San Steffan alw am gydnabyddiaeth swyddogol i wladwriaeth Palesteina yn ystod y dyddiau diwethaf.

Llun: Reuters

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.