Mae elusen anifeiliaid wedi galw am reolau mwy caeth ar gyfer y rhai sydd yn achub cŵn ac yn eu mewnforio i Brydain.
Yn ôl yr RSPCA mae yna bryderon am afiechydon ac ymddygiad ymhlith y cŵn sydd yn cyrraedd Prydain.
Mae ystadegau Llywodraeth San Steffan yn dangos bod 320,000 o anifeiliaid wedi cyrraedd y DU trwy'r Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes yn 2023.
Cynllun ydy hwn sydd yn rhoi hawl i gŵn, cathod a ffuredau (ferrets) deithio rhwng Prydain a gwledydd eraill heb gwarantin.
Fe ddaeth 44,000 o anifeiliaid anwes i mewn trwy fewnforion masnachol yn ôl y data.
'Deliveroo cŵn'
Mae David Bowles o'r RSPCA yn dweud bod y broses yn debyg i "Deliveroo ar gyfer cŵn" a'u bod yn poeni am y problemau allai godi.
"Mae yna afiechydon yn dod i mewn trwy'r cŵn yma," meddai. "Maen nhw'n effeithio nid yn unig y cŵn sydd yn cael eu mewnforio. Fe allen nhw hefyd effeithio ar y cŵn sydd yn y wlad yn barod a'u perchnogion."
Ychwanegodd: "Maen nhw bron wedi sefydlu Deliveroo ar gyfer cŵn, ac mae hynny yn broblem go iawn."
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, does dim rheidrwydd i fudiadau sydd yn achub anifeiliaid gael trwydded.
Daw sylwadau'r elusen wrth i Dŷ'r Cyffredin gefnogi bil sydd yn ceisio atal smyglo anifeiliaid a chreulondeb.
Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn gwahardd mewnforio cathod a chŵn bach llai na chwe mis oed, neu gathod a chŵn sydd yn dod at ddiwedd eu cyfnod beichiogrwydd. Bydd hefyd yn atal cŵn a chathod sydd wedi eu "anffurfio", gan gynnwys tocio eu clustiau.
Cafodd y ddeddf gan yr AS Dr Danny Chambers o'r Democratiaid Rhyddfrydol ei chefnogi gan Lywodraeth y DU.
Fe fydd Tŷ'r Arglwyddi nawr yn craffu ar y bil cyn iddo ddod i rym.
Y cyfryngau cymdeithasol
Dywedodd Dr Chambers: "Fel milfeddyg, dwi wedi gweld canlyniadau torcalonnus smyglo cŵn bach.
"Allwch chi ddim dychmygu pa mor greulon yw hi i wahanu cŵn a chathod bach oddi wrth eu mamau pan maent yn ifanc iawn a dod a nhw ar draws y ffin mewn amodau tila.
"Maent yna yn cael eu gwerthu am y broffid uchaf gan fasnachwyr diegwyddor sydd yn blaenoriaethu elw cyn lles."
Ychwanegodd bod ystyriaeth ofalus wedi ei gymryd i geisio cael y cydbwysedd iawn rhwng y rhai sydd yn masnachu yn anghyfreithlon a pherchnogion anifeiliaid dilys.
Fe wnaeth o hefyd feirniadu dylanwad y cyfryngau cymdeithasol ar y cynnydd yn y galw am gŵn gyda chlustiau wedi eu tocio.
Dywedodd bod nifer o ddylanwadwyr yn cael eu lluniau wedi eu tynnu gyda'r cŵn yma.
"Dyw llawer o bobl ddim yn sylweddoli bod hyn yn anffurfio," meddai.
"Maent yn meddwl mai fel hyn mae clustiau arferol ci yn edrych, ac mae'n cynyddu'r galw am gŵn sydd yn edrych fel hyn."