Cyhuddo dyn o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn arall yn Abertawe

The Mill, Heol Brynymor

Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn arall yn Abertawe.

Fe gafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiad o ymosodiad a bod dyn yn anymwybodol y tu allan i dafarn The Mill ar Heol Brynymor toc wedi 20.15 ddydd Gwener. 

Fe gafodd y dyn 65 oed ei gludo i Ysbyty Treforys lle bu farw ddydd Sul. 

Mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Mae Steven Vonks, 51, o Abertawe, wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe dydd Llun. 

Mae Heddlu De Cymru bellach yn apelio am dystion. 

Dylai unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth gysylltu â'r llu, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2500237616.

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.