Arestio pedwar yn dilyn tân mewn tŷ yn y Rhondda
Mae pedwar o bobl wedi eu harestio yn dilyn tân mewn rhes o dai teras yn y Rhondda.
Cafodd yr heddlu eu galw am tua 01.30 ddydd Llun i dŷ ar Stryd Protheroe yng Nglynrhedynog.
Bu'n rhaid i bobl adael eu cartrefi ac fe wnaeth y cyngor lleol agor canolfan iddyn nhw gael aros ynddi.
Doedd dim adroddiadau bod unrhyw un wedi ei anafu yn ddifrifol meddai'r heddlu.
Mewn datganiad brynhawn dydd Llun, dywedodd Heddlu De Cymru: "Mae'r arwyddion cynnar yn awgrymu bod y tân wedi'i gychwyn yn fwriadol.
"O fewn 30 munud i'r tân gael ei riportio, cafodd car ei stopio gan swyddogion o'n Huned Plismona Ffyrdd ac arestiwyd tri dyn 18, 19 a 23 oed, a menyw 19 oed ar amheuaeth o gynnau tân gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
"Mae'r pedwar yn parhau yn y ddalfa. Mae swyddogion yn parhau i gynnal cordon ar Stryd Protheroe wrth i'n hymchwiliadau barhau."
Ychwanegodd yr heddlu: "Mae'r gwasanaethau brys, mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, yn rheoli effaith y tân ar y rhai yr effeithiwyd arnynt a'r gymuned ehangach. Er mwyn darparu cymorth pellach, mae canolfan orffwys wedi'i sefydlu gan yr awdurdod lleol i gefnogi'r rhai a gafodd eu dadleoli gan y digwyddiad.
"Mae'r trigolion lleol wedi dangos ysbryd cymunedol cryf trwy ddod at ei gilydd i gefnogi'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt a hoffem ddiolch iddynt am eu dealltwriaeth a'u cydweithrediad yn ystod yr ymchwiliad parhaus hwn.
"Mae ymchwiliad ar y cyd gan Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi dechrau er mwyn i ni allu ddarganfod union achos y tân."