
'Adnodd gwerthfawr': Lansio gwefan newydd Cymdeithas Cymru-Ariannin
Mae Llywydd Cymdeithas Cymru-Ariannin yn gobeithio y bydd lansiad eu gwefan newydd yn helpu i fagu mwy o gysylltiadau rhwng y ddwy wlad unwaith yn rhagor.
Daeth gwefan flaenorol y Gymdeithas i ben rai blynyddoedd yn ôl, yn sgil problemau technegol, yn ôl y llywydd Menna Edwards.
Mae'r wefan newydd wedi lansio yn swyddogol ddydd Llun – 160 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa.
Mae’r Llywydd, Menna Edwards yn dweud bod galw mawr wedi bod am ail-sefydlu’r wefan ers iddi ddod i ben.
“Mae’r ffaith bod yr hen wefan wedi peidio â gweithio wedi cael effaith ar lawer o bobl,” meddai.
Er bod y cyfryngau cymdeithasol wedi bod o gymorth wrth ymgysylltu â phobl, mae’n dweud bod gwefan “yn rhywbeth llawer mwy ‘na hynny”.
“Mae e’n archif ydi, ond mae e’n ddogfen gynhwysfawr hefyd sydd yn gadael i bobl i ymchwilio, i ddysgu ac i gael eu denu falle i fynd i ymweld â’r Wladfa," meddai.
Mae'r wefan newydd wedi cael sêl bendith y canwr gwerin adnabyddus Gwilym Bowen Rhys, a dreuliodd gyfnod yn yr Ariannin ar gyfer y rhaglen Gwladfa a gafodd ei darlledu ar S4C yn gynharach eleni.
Mae’n dweud y bydd y wefan newydd yn “adnodd gwerthfawr” i nifer o bobl.
Bydd yn hafan i “unrhyw un sydd â diddordeb yn y gymuned Gymreig yn Chubut, ei hanes, a'i gweithgaredd heddiw, ac hefyd i Archentwyr sydd am gynnal perthynas â Chymry,” meddai.

Y Gymraeg yn 'fyw ac yn ffynnu'
Mae’r wefan yn cael ei lansio ddydd Llun wrth i bobl yn yr Ariannin dathlu Gŵyl y Glaniad i gofio’r Cymry cyntaf a laniodd ym Mhorth Madryn, Yr Ariannin ar 28 Gorffennaf, 1865.
“Mae ‘na 160 o flynyddoedd ers i’r traed Cymraeg fynd yna i sefydlu a mynd â’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg gyda nhw,” meddai Menna Edwards.
“A wir, mae gwirionedd o fodolaeth y Gymraeg dal yn fyw ac yn ffynnu, ac mae’r wefan yma nawr yn mynd i helpu hynny.
“Nid dim ond pobl yn unig yng Nghymru ond hefyd pobl yn y Wladfa, i nhw gael ymchwilio’r hanes.”
Fe fydd y wefan yn cynnwys gwybodaeth “gyfoes a hanesyddol” ac fe fydd cymorth ymarferol ar gael i unrhyw un sy’n ystyried teithio i Gymru neu’r Ariannin.
Gyda saith adran wahanol, bydd modd dod o hyd i amrywiaeth o ddeunydd gwahanol, gan gynnwys cyfres o erthyglau gan yr awdur o Glynnog, Twm Elias yn seiliedig ar ei gyfnod yn y Wladfa yn 2022-2023.
'Dyled'
Mae degau o bobl wedi bod yn rhan o’r ymdrech i sefydlu’r wefan ers 14 mis bellach.
Cafodd y gwaith ei gynnal dan arweiniad Rhys Llewelyn o Nefyn, sydd yn aelod o bwyllgor Cymdeithas Cymru-Ariannin.
“Bu'n fynydd o waith ac mi gymerodd 14 mis i gydlynu'r gwaith sef yr union fisoedd y bues i'n gweithio yn yr Ariannin fel athro Cymraeg rhwng 2000-2001,” meddai.
“Mae fy nyled yn fawr i'r 21 o bobl o Gymru sydd wedi fy helpu efo rhai agweddau o'r wefan a 12 o bobl o'r Wladfa sef cyfanswm o 33 o bobl i gyd o bob pegwn o'r byd.”
Bydd modd ymweld â’r wefan fan hyn: www.cymruariannin.cymru