Angen 'newid meddylfryd' wrth i'r gogledd wynebu 'argyfwng o ddiffyg symud'

Dr Sofie Roberts

Mae ymchwilydd o Brifysgol Bangor wedi dweud bod angen “newid meddylfryd” er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo’n ddigon hyderus i adael eu desgiau yn ystod oriau gwaith.

Mae Dr Sofie Roberts (prif lun), 37 oed, wedi dioddef gyda phoen corfforol hirdymor ers degawdau.

Fe wnaeth hi syrthio oddi ar geffyl pan roedd hi'n blentyn ac mae wedi cael problemau gyda’i chefn ers ei hugeiniau cynnar.

Ers iddi gwblhau ei gardd PhD yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ei phoen corfforol wedi gwaethygu meddai. Mae'n dweud bod hyn o achos ei bod wedi treulio gymaint o amser wrth ei chyfrifiadur.

Mae'n gweithio yng Nghanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yn y brifysgol.

Yn y gorffennol mae ei phoen wedi bod mor ddifrifol nes ei bod wedi gorfod cymryd cyfnod i ffwrdd o'r gwaith.

Mae Dr Sofie Roberts yn galw am “dorri’r meddylfryd a’r diwylliant” sydd yn gwneud i bobl teimlo nad oes hawl ganddynt i adael eu desgiau er mwyn symud eu cyrff yn ystod oriau gwaith. 

Daw ei galwadau yng nghanol rhybuddion bod Gogledd Cymru yn wynebu “argyfwng o ddiffyg symud.” 

Er mwyn ceisio mynd i’r afael â hynny, mae sefydliad Gogledd Cymru Actif wedi cyhoeddi adnoddau newydd ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Y nod yw hyrwyddo cyfnodau o ymarfer corff yn y gweithle.

'Angen hyder'

Mae Dr Roberts yn dweud ei bod wedi gallu manteisio ar yr adnoddau – sydd yn cynnwys fideos gyda symudiadau y gall pobl eu gwneud yn y swyddfa – gan fod ei rheolwr llinell yn “gefnogol” o gynllun o’r fath. 

Ond mae’n dweud bod angen normaleiddio’r drefn o beidio bod yn gaeth i’r ddesg yn y gwaith yn y gymdeithas ehangach. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Mae angen hyder i staff i ‘neud does, bod y neges yn dod o uwch eu pennau nhw i ddweud bod e’n berffaith iawn iddyn nhw gymryd 10 munud i fynd am dro rownd yr adeilad,” meddai. 

“Neu os da nhw angen sgwrs gyda cyd-weithiwr, beth am iddyn nhw neud tra bod nhw’n cerdded. 

“Mae angen cael ei ‘neud yn oce. 

“Dwi’n teimlo’n euog weithiau achos 'dw i’n gweithio o adre' a 'dw i’n mynd am dro bach tu allan i oriau cinio arferol a 'dw i’n meddwl, ‘Oh my goodness, dylwn i ddim bod yn ‘neud hyn, 'dw i’n teimlo’n naughty.’ 

“Ond dydy e ddim yn ‘naughty’ o gwbl, mae’n berffaith iawn.”

'Argyfwng'

Yn ôl Gogledd Cymru Actif, fe allai’r mesurau helpu i leihau lefelau absenoldeb salwch yn y gwaith. 

Maen nhw’n dweud bod lefelau absenoldeb o achos diffyg ymarfer corff yn y pen draw yn costio tua £314 miliwn i’r economi yng Nghymru. 

Dywedodd Manon Rees-O’Brien, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Gogledd Cymru Actif ei bod yn “angerddol” dros greu diwylliant lle mae bod yn actif yn “rhan o fywyd bob dydd – gan gynnwys yn ystod y diwrnod gwaith.”

“Mae ein hadnoddau newydd yn rhoi deunyddiau ac offer ymarferol i gyflogwyr er mwyn gwneud gweithgarwch corfforol yn fwy hygyrch, ymarferol a chynhwysol i bawb.” 

Mae Dr Jane Moore, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi rhybuddio bod Gogledd Cymru yn wynebu “argyfwng o ddiffyg symud.”

“Rydym ni gyd yn symud llai yn ein gwaith wrth i dechnoleg ddatblygu, gan dreulio mwy a mwy o amser yn ein ceir ac o flaen sgrin,” meddai. 

Mae’n dweud y gallai symud mwy yn ystod oriau gwaith arwain at les corfforol a meddyliol gwell, gan hefyd gyfrannu at ba mor gynhyrchiol y mae staff. 

“Mae’r bwrdd iechyd eisoes yn gweithio i helpu ein staff i fod yn fwy actif lle gallwn ni – ac rydym ni eisiau annog a herio cyflogwyr mawr a bach ledled Gogledd Cymru i wneud hyn hefyd.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.