Yr Unol Daleithiau a'r Undeb Ewropeaidd yn cyrraedd cytundeb masnach
Mae'r Unol Daleithiau a'r Undeb Ewropeaidd wedi cyrraedd cytundeb masnach.
Yn dilyn trafodaethau allweddol rhwng yr Arlywydd Donald Trump ac Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen yn yr Alban, fe wnaeth y ddau gytuno ar dariff o 15% gan yr Unol Daleithiau ar holl nwyddau'r Undeb Ewropeaidd.
Dyna hanner y gyfradd dreth o 30% yr oedd Trump wedi bygwth ei gweithredu ar fewnforion o ddydd Gwener ymlaen.
Bydd rhai nwyddau, gan gynnwys deunyddiau crai a rhai cynhyrchion amaethyddol, yn cael eu mewnforio a'u hallforio heb dariffau.
"Rwy'n credu ei bod hi'n wych ein bod ni wedi gwneud cytundeb heddiw yn lle chwarae gemau," meddai Trump ar ddiwedd y cyfarfod. "Rwy'n credu mai dyma'r cytundeb mwyaf erioed."
Fe wnaeth Von der Leyen hefyd ganmol y cytundeb, gan ei ddisgrifio fel "bargen enfawr".
"Bydd yn dod â sefydlogrwydd, bydd yn dod a'r hyn mae pobl yn disgwyl," meddai. "Mae hynny'n bwysig iawn i fusnesau ar ddwy ochr yr Iwerydd."
Mae Trump wedi defnyddio tariffau yn erbyn partneriaid masnach mawr yr Unol Daleithiau mewn ymgais i aildrefnu'r economi fyd-eang.
Yn ogystal â'r Undeb Ewropeaidd, mae wedi gwneud cytundebau masnach gyda'r DU, Japan, Indonesia, y Philipinau a Fietnam.
Fe gafodd y cytundeb ei gyhoeddi ddydd Sul yn dilyn trafodaethau preifat rhwng Trump a Von der Leyen yn ei gwrs golff yn Turnberry yn Ne Sir Ayr.
Llun: Reuters