'Gofid mawr': Gwerth safle Fferm Gilestone y llywodraeth wedi gostwng hanner miliwn

Green Man
NS4C

Mae fferm y gwnaeth Llywodraeth Cymru brynu er mwyn helpu gŵyl gerddorol ym Mhowys wedi lleihau yn ei gwerth £500,000 medd un o bwyllgorau'r Senedd.

Fe wnaeth y llywodraeth brynu Fferm Gilestone, ger Talybont-ar-Wysg ym Mhowys yn 2022 am £4.25 miliwn. Y bwriad oedd bod trefnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn defnyddio'r fferm ar gyfer rhai digwyddiadau. Roedd y cynllun wedi ei lunio i sicrhau dyfodol yr wŷl.

Ond roedd yn rhaid rhoi'r gorau i'r cynllun ar ôl i bâr o weilch nythu yno.

Mae adroddiad beirniadol gan un o bwyllgorau'r Senedd yn dweud bod dyfodol y safle rŵan yn "ymddangos yn ansicr iawn, gyda'r gwerthusiad diweddaraf yn dangos bod gwerth yr ased wedi gostwng £0.5 miliwn mewn gwerth o'i gymharu â'r pris prynu. 

"Mae hyn yn destun gofid mawr."

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n darllen yr adroddiad ac yn darparu ymateb maes o law.

Mae'r ddogfen gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus hefyd yn dweud bod y llywodraeth wedi rhuthro i brynu'r safle o achos pwysau cyllidebol ddiwedd blwyddyn. 

"Mae'n drueni bod methiannau yn y broses a dylai Llywodraeth Cymru fyfyrio ar ei dull cyn prynu, er mwyn penderfynu a yw'r prosesau sydd ar waith yn ddigon cadarn i osgoi problemau rhag codi yn y dyfodol," meddai'r adroddiad.

Mae'r pwyllgor wedi dweud y byddant nawr yn cynnal ymchwiliad i ddull y llywodraeth o fuddsoddi mewn eiddo. Y bwriad yw deall yn well y prosesau ac i bwyso a mesur os ydynt yn ddigon trylwyr.

'Brys diangen'

Yn ôl aelodau'r pwyllgor mae'n beth positif bod gan Lywodraeth Cymru'r pwerau i wneud buddsoddiadau er mwyn cefnogi diwydiannau penodol yng Nghymru. Ond maent yn dweud bod "patrwm pryderus o'r cronfeydd a'r buddsoddiadau hyn yn colli arian ac yn methu â chyflawni eu hamcanion".

Gwendid arall oedd nad oedd y llywodraeth wedi cysylltu ddigon gyda'r gymuned leol medd y ddogfen. Roedd hyn yn golygu eu bod "yn teimlo nad oeddent yn rhan o'r broses" nac wedi cael digon o wybodaeth am yr hyn oedd yn digwydd. Mae swyddogion y llywodraeth wedi cydnabod methiannau yma.

Maent hefyd yn nodi nad oedd cofnodion digonol o gyfarfodydd gyda swyddogion Gŵyl y Dyn Gwyrdd a bod hyn wedi golygu nad oedd modd i ASau graffu ar y penderfyniadau wnaeth y llywodraeth.

Dywedodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd y pwyllgor: “Mae’r Pwyllgor yn bryderus iawn ynglŷn â’r ffordd yr aeth Llywodraeth Cymru ati i brynu Fferm Gilestone. 

"Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd gweithredu'n gyflym i gefnogi'r sector creadigol, cafodd y penderfyniad hwn ei wneud ar frys diangen a heb y diwydrwydd dyladwy trylwyr y mae gan y cyhoedd bob rheswm i’w ddisgwyl. 

"Mae'n codi cwestiynau difrifol ynghylch prosesau mewnol a chadernid strwythurau llywodraethu."

Ychwanegodd bod yn rhaid i'r llywodraeth "wneud mwy i sicrhau ei bod nid yn unig yn ymgynghori â chymunedau, ond ei bod o ddifrif yn gwrando arnyn nhw".

Dywedodd hefyd ei fod yn disgwyl i'r llywodraeth ddweud yr hyn maen nhw'n bwriadu gwneud gyda'r safle a sut y byddan nhw yn trio lleihau'r golled ariannol.

'Ymateb maes o law'

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’n ymateb yn llawn i adroddiad y pwyllgor ar ôl ei darllen yn llawn.

Ond mae'r llefarydd yn pwysleisio eu bod wedi gorfod rhoi'r gorau i'r cynllun gwreiddiol er mwyn diogelu pâr o weilch y pysgod ar y tir.

"Cafodd Fferm Gilestone ei phrynu yn 2022, gan ddilyn prosesau priodol ac yn unol â gwerthoedd y farchnad ar y pryd, er mwyn cefnogi twf y sector creadigol yng Nghymru ac economi gryfach yng nghanolbarth Cymru," meddai'r datganiad. 

"Roeddem wrth ein bodd o glywed ym mis Awst 2023 am bresenoldeb pâr o weilch y pysgod, a ddychwelodd yn 2024, ac eto eleni. Fe wnaeth eu hwy cyntaf ddeor ym mis Mehefin 2025. Y gred yw mai dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd yn Nyffryn Wysg ers o leiaf 250 mlynedd.

"Roedd dyfodiad gweilch y pysgod o reidrwydd yn effeithio ar y defnydd a gynlluniwyd o’r fferm, a bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r prosiect gwreiddiol."

Ychwanegodd bod Fferm Gilestone yn parhau i fod yn un o asedau eiddo'r llywodraeth ac yn cael ei reoli ar eu rhan fel fferm weithredol.

"Rydym yn parhau i archwilio cyfleoedd posibl ar gyfer ei ddefnydd yn y dyfodol," meddai'r llefarydd.

"A hynny yn unol â’n hymrwymiad i geisio canlyniad cynaliadwy sy’n helpu cymunedau lleol i ffynnu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.