
Ail bryder am ymddygiad Neil Foden wedi ei godi yn 2019
Ail bryder am ymddygiad Neil Foden wedi ei godi yn 2019
Mae hi wedi dod i’r amlwg fod Cyngor Gwynedd wedi cael gwybod am ddau bryder am Neil Foden yn 2019. Dau bryder o’r un natur yn ymwneud â diogelu plant.
Mae tystiolaeth newydd gan Newyddion S4C yn dangos fod Cyngor Gwynedd, ychydig fisoedd ar ôl penderfynu peidio ag ymchwilio i bryderon am ‘agosrwydd Neil Foden at rai merched’, wedi cael gwybod am ail bryder amdano.
Credir bod y pryder newydd wedi’i fynegi yn ail hanner 2019 gan aelod o staff mewn awdurdod lleol cyfagos.
Cadarnhaodd Cyngor Sir Ynys Môn fod swyddogion wedi "cydweithio yn llwyr" gyda "phob asiantaeth" ac wedi "cyfeirio amheuon ynghylch Neil Foden at yr asiantaeth gyfrifol yn unol â’r Canllawiau Amddiffyn Plant, oedd mewn grym yn 2019".
Nid oedd Cyngor Sir Ynys Môn yn fodlon cadarnhau pa asiantaethau gafodd wybod am yr ‘amheuon’ yma na chwaith os gafodd y wybodaeth ei rannu yn uniongyrchol â Chyngor Gwynedd.
Rhybudd swyddogol
Mae sawl ffynhonnell wedi dweud wrth Newyddion S4C fod Cyngor Gwynedd wedi cael rhybudd swyddogol am bryder a gafodd ei godi yn wreiddiol gan aelod o staff Ynys Môn. Mae’n ymddangos na chafwyd ymchwiliad swyddogol.
Gofynnwyd sawl gwaith i Gyngor Gwynedd am eglurhad am y mater yma ond maen nhw’n dweud eu bod wedi rhannu yr holl "wybodaeth gysylltiedig" â'r panel Adolygu Ymarfer Plant.
Fe gafodd yr Adolygiad Ymarfer Plant ei sefydlu ar ôl achos llys Neil Foden er mwyn bwrw golwg ar amgylchiadau’r hyn a ddigwyddodd. Mae’r tîm wedi cadarnhau fod y pryderon uchod "wedi dod i’r amlwg" a’u bod wedi cael "sylw" ond ni all y panel wneud sylwadau pellach ar hyn o bryd, a’r "nod ydy cyhoeddi’r adroddiad ddiwedd Medi."
Y llynedd, cafwyd Foden yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin merched ifanc yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Roedd yn cael ei gyflogi gan Gyngor Gwynedd fel pennaeth Ysgol Friars ym Mangor ac wedi bod yn bennaeth strategol dros dro yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn "na ellir rhyddhau gwybodaeth sensitif am y mater difrifol yma."
Fodd bynnag, mae’n dweud fod gan y cyhoedd yr "hawl i wybod fod gweithdrefnau amddiffyn plant yr Ynys wedi eu dilyn yn y mater yma ac yn parhau i fod yn gryf a chyfrifol".
Dywedodd Dylan J. Williams, y prif weithredwr ei fod yn "estyn ein cydymdeimladau dwysaf at bob plentyn a theulu sydd wedi dioddef oherwydd camdriniaeth gan Mr Neil Foden, Cyn Bennaeth Ysgol Friars, Bangor, Gwynedd."
"Yn ogystal â chydymdeimlo gyda’r dioddefwyr, mae’r Cyngor Sir wedi sicrhau fod pawb sydd wedi gofyn am gefnogaeth wedi derbyn gwasanaeth addas," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae’n dristwch o waelod calon fod amrywiol bryderon wedi eu codi am Neil Foden dros y blynyddoedd, ac er y bu cydweithio gyda’r Heddlu ac asiantaethau eraill, nid oedd ein ymateb yn ddigon i atal ei droseddu.
“Mae’r Adolygiad Ymarfer Plant (CPR) yn gam mawr ymlaen er mwyn ein galluogi i ddod i waelod hyn, a byddwn yn croesawu yr argymhellion fydd yn cael eu gwneud. Rydym yn addo gweithredu ar bob argymhelliad fydd yn berthnasol i ni fel Cyngor pan fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi."
Tystiolaeth gweithiwr allweddol:
Cadarnhaodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod gweithiwr allweddol a roddodd dystiolaeth yn achos Foden y llynedd "wedi codi pryderon gyda’r heddlu", a bod y pryderon hyn wedi’u codi "yn dilyn arestio Foden".
Dywedodd y tyst wrth y llys ei bod yn 2019, wedi bod yn cael cyfarfodydd "wythnosol" gydag un o’r dioddefwyr a elwid yn Blentyn E. Esboniodd mai pwrpas y cyfarfodydd oedd trafod ‘materion personol a chyfrinachol.’
Daeth i’r amlwg yn achos Foden ei fod o wedi dechrau meithrin perthynas amhriodol â Phlentyn E a’i cham-drin yn rhywiol yn 2019. Byddai Foden yn cyfeirio at y ferch hon fel ei “degan rhyw”. Bu’n mynd a hi i aros mewn gwestai pan oedd o’n teithio i ffwrdd mewn digwyddiadau gwaith.
Dywedodd y gweithiwr allweddol wrth y llys fod ei chyfarfodydd â Phlentyn E fel arfer yn digwydd "yn breifat". Ond, yn ystod gwyliau’r haf, newidiodd pethau a chynhaliwyd y cyfarfodydd mewn ystafell wahanol ac fod Foden bob amser yn bresennol.
Nid oedd Heddlu Gogledd Cymru yn gallu cadarnhau a oedd y gweithiwr allweddol yn yr achos llys yn gweithio i Gyngor Ynys Môn ar y pryd, ond dywedasant eu bod wedi cael gwybod am ei phryderon "ar ôl arestio Foden a bod hynny wedi llunio rhan o'r achos."
Pryderon am Foden / Cyngor Gwynedd 2019
Ebrill 2019:
Cafodd pryderon am agosrwydd Foden at rai merched yn eu harddegau eu rhannu gyda phennaeth addysg Gwynedd ar y pryd, Garem Jackson. Yn ystod achos Foden, dywedodd wrth y llys ei fod o wedi cael cyngor gan uwch swyddog diogelu nad oedd angen ymchwiliad ffurfiol am nad oedd cwyn swyddogol wedi'i gwneud.
Yn ôl y barnwr roedd methiant y cyngor i ymchwilio yn "bryderus iawn", ac o bosibl wedi "annog" Foden i barhau i gam-drin.
Mae Mr Jackson wedi dweud yn flaenorol fod diogelu yn "flaenoriaeth allweddol" ac mai’r drefn arferol oedd trafod gyda'r swyddog priodol a dilyn eu cyngor os y codwyd unrhyw bryderon.
Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod pedwar aelod o staff wedi bod yn rhan o'r penderfyniad i beidio ag ymchwilio i'r pryder hwn am Foden.
Fis Ebrill eleni daeth cadarnhad na fyddai casgliadau ymchwiliad newydd, oedd yn edrych ar y prosesau uchod yn 2019; yn cael eu rhannu gyda chynghorwyr na'r cyhoedd.
Yn ôl Cyngor Gwynedd mae’r adroddiad gan fargyfriethiwr annibynnol yn cynnwys gwybodaeth "sensitif" a "manylion am faterion cyflogaeth a data personol."
Mai 2019:
Tra roedd Foden yn cam-drin merched ifanc roedd sylw Cyngor Gwynedd wedi troi at honiadau o fwlio a wnaed yn ei erbyn gan staff.
Comisiynwyd adroddiad gan banel cwynion, ac mi gafodd eu hargymhellion eu cyflwyno fis Mai 2019.
Mae BBC Cymru wedi gweld copi o’r adroddiad cyfrinachol sy’n dangos bod pryderon wedi'u codi am ymddygiad Foden, a’r awduron yn rhybuddio y dylid cymryd camau gweithredu.
Yn ddiweddar, cafwyd ymchwiliad mewnol i asesu ymateb y cyngor i adroddiad y panel nôl yn 2019.
Daeth yr ymchwiliad i gasgliad nad oedd y cwynion ar y pryd yn ymwneud â phryderon materion diogelu plant, ond y gallai Corff Llywodraethol Ysgol Friars a Cyngor Gwynedd fod wedi ymateb yn well i’r argymhellion.
Yn 2020 cafodd Foden ei geryddu gan y rheoleiddiwr addysgu a'i gicio allan o'i undeb.
Eto i gyd, flwyddyn yn ddiweddarach, yn 2021, rhoddwyd mwy o gyfrifoldeb iddo fel "pennaeth strategol" dros dro a fu’n goruchwylio dwy ysgol wahanol yng Ngwynedd.