Eilyr Thomas yn derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams

Eilyr Thomas

Eilyr Thomas o Landissilio yn Sir Benfro sy’n derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams eleni.

Cyflwynir y Fedal yn flynyddol gan yr Eisteddfod Genedlaethol i unigolyn sydd wedi gwneud "cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc."

Bu Eilyr Thomas yn athrawes a phrifathrawes mewn ysgolion cynradd yn ardal Maenclochog a Mynachlog-ddu am y rhan fwyaf o’i bywyd gwaith. 

Y tu hwnt i’w gyrfa ddylanwadol ym myd addysg, bu’n weithgar ym myd cerddoriaeth, canu ac adrodd ers yn ifanc iawn.

Dywedodd ei bod hi’n “fud hollol” pan gafodd wybod a “methu cael geiriau i'm meddwl o gwbl”.

“Dwi ddim yn berson sy’n ennill cystadlaethau na dim byd, ond hwn - doeddwn i ddim yn gallu coelio,” meddai.

“Wrth gwrs, mae’n anrhydedd, ac rydw i’n falch iawn o’i dderbyn, er fy mod yn nerfus iawn hefyd."

Cafodd Eilyr Thomas lwyddiant mawr ar lwyfannau eisteddfodau bach a mawr, yn enwedig fel unawdydd ac fel aelod o gorau a phartïon, gan gyrraedd y brig wrth ennill y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y 1970au. 

"Roedd y teulu’n gerddorol, ac mae’n debyg fy mod wedi dangos rhyw fath o awydd canu, er mod i’n rhyfeddol o swil," meddai.

“Bob tro roedd rhywun yn dod i’r tŷ ac yn gofyn i mi ganu, byddwn i’n mynd tu ôl i’r llenni - allwn i byth eu hwynebu.”

Arwain

Dywedodd yr Eisteddfod bod ei chyfraniadau i fywyd cerddorol a diwylliannol y gymuned wedi bod yn "sylweddol".

Mae nifer o ddisgyblion oedd wedi ei dysgu ganddi wedi mynd ymlaen i gael llwyddiant mawr, gan gynnwys Jessica Robinson, a fu’n cystadlu yng nghystadleuaeth Canwr y Byd, yn ogystal â Trystan Llŷr Griffiths, Sioned Llewelyn, Esyllt Thomas a Ffion Thomas.

Y tu hwnt i hyfforddi unigolion, mae Eilyr Thomas hefyd wedi arwain corau ac ensembles lleisiol. 

Bu’n arweinydd Cantorion Cleddau yn ystod y 1960au ac mae’n aelod ymroddgar o Gapel Nebo, Efailwen, lle mae’n ysgrifenyddes ac yn athrawes Ysgol Sul.

Mae’n wirfoddolwr yng Nghlwb Pensiynwyr Llandissilio, sy’n paratoi cinio, yn cludo aelodau i’r neuadd, ac yn trefnu gweithgareddau codi arian i elusennau lleol.

Fe’i hanrhydeddwyd â’r Wisg Wen yng Ngorsedd Cymru am ei gwaith dros ddiwylliant ei hardal. Mae’n gyn-aelod o Gyngor yr Eisteddfod.

Bydd Eilyr Thomas yn derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams ar lwyfan y Pafiliwn am 12:30, ddydd Mawrth, 5 Awst. 

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn Is-y-Coed o 2-9 Awst.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.