Beiciwr modur wedi ei anafu'n ddifrifol ger Llangollen
Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A5 yn Llangollen ddydd Llun.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal y Berwyn Bends' ychydig ar ôl 11:40am yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng tri cherbyd a oedd yn cynnwys beic modur Kawasaki ZZR du, fan wersylla wedi'i chofrestru yn y Swistir, a cherbyd nwyddau trwm coch.
Cafodd y beiciwr modur ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mae'r ffordd yn parhau ar gau tra bod ymchwiliadau'n parhau.
Dywedodd y Rhingyll Alun Jones o'r Uned Troseddau Ffyrdd: "Rwy'n annog unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a oedd yn teithio ar hyd yr A5 ger Berwyn cyn 11.40 ac sydd â lluniau camera dashfwrdd i gysylltu â ni.
"Yn ogystal, unrhyw un sydd â lluniau o'r beiciwr modur, a oedd yn teithio tua'r de yng nghwmni tri beic modur arall, neu'r cerbyd nwyddau trwm neu'r fan wersylla i gysylltu â ni."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo'r ymchwiliad gysylltu dros y we neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod C115191.