Carcharu cwpl o Gaerdydd am gynllunio i dreisio tri o blant ifanc
Rhybudd: Gall cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai
Mae cwpl o Gaerdydd wedi cael eu carcharu am gynllunio i dreisio tri o blant ifanc o dan 12 oed.
Anfonodd Stuart Compton, 46 oed, a’i bartner, Tracy Turner, 52 oed, bron i 100,000 o negeseuon at ei gilydd yn trafod eu cynlluniau i gam-drin dwy ferch a bachgen dros gyfnod o ddwy flynedd.
Clywodd Llys y Goron Merthyr fod eu cynllun wedi ei ddarganfod ar ôl i gwmni ap ar-lein hysbysu’r heddlu am bryderon ynghylch Compton, ac fe gafodd y ddau eu harestio.
Wrth ddedfrydu’r cwpl ddydd Llun, rhoddodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke, Cofiadur Caerdydd, ddedfryd o garchar am oes i Compton, tra bod Turner wedi cael 12 mlynedd yn y carchar, gyda dwy flynedd arall ar drwydded estynedig.
Rhaid i Compton dreulio o leiaf saith mlynedd yn y carchar cyn y gall wneud cais i’r bwrdd parôl i gael ei ryddhau.
Mewn gwrandawiad cynharach, plediodd y cwpl, a oedd yn cyfeirio at ei gilydd fel Bonnie a Clyde mewn negeseuon, yn euog i chwe chyhuddiad o drefnu i ymosod yn rhywiol ar blentyn.
Plediodd Compton yn euog hefyd i chwe chyhuddiad o wneud delweddau anweddus, a chyfaddefodd Turner, sy'n gynorthwyydd mewn theatr ysbyty, ddau gyhuddiad o'r un drosedd.
Dywedodd y barnwr fod negeseuon yn dangos eu bod wedi trafod “dro ar ôl tro” eu dymuniadau i dreisio plant a bod eu sgyrsiau “wedi gwneud yn glir nad ffantasi oedd hyn”.
Roedd y cwpl wedi bwriadu cyflawni’r gweithredoedd, gyda Ms Lloyd-Clarke yn dweud eu bod wedi “nodi’n ofalus” lleoliad lle byddai un ymosodiad yn digwydd.
“Roedd y syniad o dreisio plentyn wedi eich cyffroi’n rhywiol,” meddai.
Ychwanegodd: “Rydych chi’ch dau yn gwadu eich diddordeb rhywiol mewn plant, rydych chi’ch dau yn anwybyddu difrifoldeb eich troseddu.”
Rhaid i’r cwpl hefyd hysbysu’r heddlu am unrhyw enwau neu gyfeiriadau maen nhw’n eu defnyddio ac maen nhw wedi’u gwahardd rhag gweithio gyda phlant a grwpiau sy'n agored i niwed.
Roedd Compton, o Cathays, a Turner, o’r Rhath, wedi gwadu cyfres o droseddau eraill, gan gynnwys cynllwynio i lofruddio, cynllwynio i dreisio a chynllwynio i herwgipio.
Bydd yr honiadau hyn yn cael eu cadw ar gofnod.