Dynes o ogledd Cymru wedi boddi ar wyliau wrth i'w gŵr geisio ei hachub
Clywodd cwest bod dyn o ogledd Cymru wedi ceisio achub bywyd ei wraig ar ôl iddi fynd i drafferthion yn y môr ar eu gwyliau yng Ngwlad Groeg.
Bu farw Emma Jane Slack yn 54 oed wedi iddi foddi ar 9 Gorffennaf yn ardal Roda, Corfu.
Cafodd cwest i’w marwolaeth ei agor yn Rhuthun yn Sir Ddinbych ddydd Llun gan yr uwch grwner ar gyfer Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, John Gittins.
Roedd Mrs Slack o Ffordd Hendy, Yr Wyddgrug, a’i gŵr, Rob, ar eu gwyliau pan aeth hi i drafferthion yn y môr, meddai.
Roedd ei gŵr wedi ceisio achub ei bywyd ond fe aeth i drafferthion hefyd.
Dywedodd y crwner ei fod wedi derbyn dogfennau swyddogol o Wlad Groeg oedd yn dweud bod tonnau "ffyrnig" ar y pryd a'i bod hi wedi boddi.
Roedd corff Mrs Slack bellach wedi ei gludo adref, ychwanegodd Mr Gittins.
Cafodd y cwest ei ohirio nes bod dyddiad wedi ei bennu ar gyfer gwrandawiad pellach.