
Alex Jones: 'Dim syniad' am gwynion yn erbyn Jermaine Jenas
Mae'r cyflwynydd Alex Jones wedi dweud nad oedd ganddi syniad am gwynion yn erbyn ei chyn gyd gyflwynydd ar y One Show, Jermaine Jenas.
Collodd cyn chwaraewr canol cae Tottenham Hotspur ei swydd ar ddwy o raglenni'r BBC, The One Show a Match Of The Day wedi honiadau yn ymwneud ag ymddygiad yn y gweithle.
Cyn iddo gael ei ddiswyddo fis Awst 2024, roedd Jermaine Jenas yn gyfrannwr rheolaidd ar raglenni chwaraeon y BBC ac yn cyflwyno ar BBC Radio 5 Live.
Dywedodd y cyflwynydd 48 o Ddyffryn Aman wrth gylchgrawn Big Issue, nad oedd hi'n ymwybodol o'r cwynion yn ei erbyn tan iddo adael.
“Gyda JJ [Jenas] doeddwn ni ddim yn gwybod be oedd yn digwydd,” meddai Alex Jones.
“Roeddwn i'n credu ei fod e wedi cymryd gwyliau estynedig
“Doedd y BBC ddim wedi rhannu'r hyn oedd yn digwydd gyda fi, tan iddyn nhw ddelio â'r mater. A chi'n gwybod, fe wnaethon nhw yr hyn roedden nhw'n meddwl oedd yn gywir.
“Os mai fy merch i fyddai hi, a'i bod yn teimlo'n anghyfforddus gydag ymddygiad rhywun, rwy'n gobeithio y byddai unrhyw gwmni y byddai'n gweithio iddo yn delio â'r mater yn gyflym hefyd.”

Ar ôl cael ei ddiswyddo gan y BBC, ymddiheurodd Jermaine Jenas gan nodi nad oedd wedi gwneud “unrhyw beth anghyfreithlon” a bod “negeseuon amhriodol” wedi eu hanfon rhwng “dau oedolyn a oedd wedi cydsynio i hynny.”
Fisoedd yn ddiweddarach, cyhoeddodd gwraig Jermaine Jenas, Ellie Penfold, fod y pâr wedi gwahanu ar ôl bod gyda'i gilydd am 16 mlynedd.
Dychwelodd Jenas i ddarlledu ar orsaf radio TalkSport fis Chwefror.
Llun: Jordan Pettitt/PA Wire