'Au revoir': Geraint Thomas yn ffarwelio â'r Tour de France

Geraint Thomas / Seiclo

Fe fydd y Cymro Geraint Thomas yn dweud au revoir i'r Tour de France ddydd Sul wrth iddo rasio yn y gystadleuaeth am y tro olaf.

Fe ddechreuodd Thomas, sy’n 39 oed, ei ras gyntaf yn 2007 ac mae wedi cystadlu mewn 13 ras ers hynny.

Mae wedi sefyll ar bob gris y podiwm ar ddiwedd amrywiol gymalau, gyda'r fuddugoliaeth gofiadwy yn 2018 pan gafodd ei goroni'n bencampwr y Tour De France.  

Pan ddychwelodd i Gymru wedi'r fuddugoliaeth honno, ymgasglodd miloedd ar hyd strydoedd y brifddinas i ddathlu ei lwyddiant, a 3,000 ychwanegol yn bresennol ym Mae Caerdydd wrth i'r Prif Weinidog ar y pryd Carwyn Jones ei longyfarch.

Wedi sawl cystadleuaeth a theitl yn ystod ei yrfa, fe gyhoeddodd Thomas ym mis Chwefror eleni y bydd yn ymddeol o fyd seiclo ddiwedd y tymor.

Fe yw'r Cymro mwyaf llwyddiannus yn y gamp gan ennill dwy fedal aur Olympaidd a thri theitl Pencampwriaeth y Byd i ychwanegu at deitl Tour de France yn 2018.

'Emosiynau'

Cyn y gystadleuaeth eleni dywedodd y seiclwr o Gaerdydd: “Iawn te, Tour de France #14.

"Mae'r emosiynau a'r teimladau'r diwrnod cynt yr un fath ag yr oeddent 18 mlynedd yn ôl pan ro'n ni yr ieuengaf. 

"Nawr fi yw'r hynaf, rhywbeth sydd wedi cael ei ddweud wrthyf sawl gwaith. Fedra i ddim aros i ddechrau gyda'r bechgyn. Un tro olaf.  Welai chi allan yna."

Bydd Thomas yn cwblhau'r cymal olaf yn y gystadleuaeth ddydd Sul wrth i'r ras ddod i ben ym Mharis.

Fe fydd gan y Cymro gyfle i ffarwelio â seiclo yng Nghymru, wrth i ddau gymal olaf Taith Prydain Lloyds 2025 ym mis Medi ymweld â Chymru.

Bydd y cymal olaf yn cychwyn o Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yng Nghasnewydd, cyn i'r beicwyr deithio tuag at Felodrom Maindy - cartref Clwb Beicio Maindy Flyers, cyn-glwb Thomas, cyn gorffen yng nghanol dinas Caerdydd.

Beth bynnag a ddaw dros y misoedd nesaf wrth i'w yrfa ddod i ben, does dim amheuaeth fod Geraint Thomas yn un o’r sêr disgleiriaf yn hanes chwaraeon Cymru.

Ac mae e eisioes wedi cyhoeddi ei fod yn ysu i ddysgu Cymraeg yn syth ar ôl ymddeol.

 

 



 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.