Rygbi: Buddugoliaeth gampus i Gymru yn erbyn Awstralia
Mae Cymru wedi ennill eu gêm gyntaf dan reolaeth Sean Lynn, a hynny ar eu hymweliad cyntaf ag Awstralia.
Enillodd Cymru 21-12 yn erbyn Awstralia yn Brisbane fore Sadwrn.
Lai na mis cyn Cwpan y Byd, fe fydd y fuddugoliaeth yn erbyn y tîm sydd yn safle rhif chwech ar restr detholion y byd yn hwb mawr iddynt.
Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Cymru ers i'r prif hyfforddwr Sean Lynn gael ei benodi cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Awstralia ddechreuodd y cryfaf o'r ddau dîm wrth i Annabelle Codey groesi'r llinell gais.
Bu rhaid oedi'r chwarae am gyfnod wrth i fellt a tharanau olygu nad oedd yn ddiogel i'r ornest barhau.
Wedi i'r chwarae ail ddechrau, sgoriodd Nel Metcalfe ddau gais cyn hanner amser dros Gymru.
Roedd Cymru yn edrych yn gyfforddus cyn yr hanner, cyn i Tabua Tuinakauva sgorio.
Dagrau
Yn yr ail hanner, llwyddodd Cymru i ymestyn eu mantais wrth i Hannah Dallavalle sgorio ei phedwerydd cais i Gymru.
Er i Awstralia ennill rhan fwyaf o'r diriogaeth yn yr ail hanner, roedd amddiffyn Cymru yn gadarn ac fe wnaethon nhw atal eu gwrthwynebwyr rhag sgorio.
Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru chwarae ar dir Awstralia, ac roedd hi'n fuddugoliaeth hollbwysig.
Wrth i'r dyfarnwr chwythu'r chwiban olaf roedd Pennaeth Rygbi Menywod Undeb Rygbi Cymru, Belinda Moore yn sychu dagrau oddi ar ei hwyneb.
Fe fydd Cymru yn herio Awstralia eto ddydd Gwener cyn teithio i Loegr ar gyfer Cwpan y Byd.