Dros 220 o aelodau seneddol yn galw am gydnabod gwladwriaeth Palesteina
Dros 220 o aelodau seneddol yn galw am gydnabod gwladwriaeth Palesteina
Mae dros 200 o aelodau seneddol yn San Steffan wedi ymuno i alw am gydnabyddiaeth swyddogol i wladwriaeth Palesteina.
Mae'r 221 o ASau yn annog Llywodraeth y DU i gymryd y cam cyn cynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd yr wythnos nesaf, yn dilyn cyhoeddiad Ffrainc y byddai'n cydnabod Palesteina yn y gynhadledd honno.
Dywedodd eu llythyr, a gydlynwyd gan Sarah Champion – cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Ddatblygu Rhyngwladol: “Rydym yn disgwyl y bydd canlyniad y gynhadledd yn amlinellu pryd a sut y bydd y Llywodraerth yn gweithredu ar ei hymrwymiad hirhoedlog i ateb dwy wladwriaeth; yn ogystal â sut y bydd yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i wireddu hyn.”
Roedd ASau o'r blaid Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, yr SNP, y Blaid Werdd, yr SDLP ac ASau annibynnol ymhlith y rhai a lofnododd y llythyr.
Ymhlith yr enwau mae cadeiryddion pwyllgor dethol Llafur, Liam Byrne a Ruth Cadbury, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey, yn ogystal â chyn-weinidog y Torïaid, Kit Malthouse.
Dicter
Mae gweinidogion wedi wynebu galwadau cynyddol i gydnabod gwladwriaeth Palesteina ar unwaith yng nghanol dicter byd-eang cynyddol dros ddioddefaint y boblogaeth newynog yn Gaza.
Fe wnaeth Keir Starmer, Prif Weinidog y DU, gondemnio’r amodau “amhosib eu hamddiffyn” o fewn Gaza cyn galwad brys gydag arweinwyr Ffrainc a’r Almaen ddydd Gwener.
Dywedodd bod gan bobl Palesteina “yr hawl” i’w gwladwriaeth ei hun ond mynnodd y dylai yna fod terfyn ar y gwrthdaro yn gyntaf.
Dywedodd Syr Keir: “Byddaf yn cynnal galwad frys gyda’n partneriaid yn yr E3 yfory, lle byddwn yn trafod yr hyn y gallwn ei wneud ar frys i atal y lladd.
“A’r hyn sydd ei angen er mwyn cael y bwyd sydd ei angen ar bobl, ac adeiladu heddwch parhaol.”
Galwodd yr Ysgrifennydd Iechyd Wes Streeting ddydd Mawrth am gydnabod Palesteina “tra bod gwladwriaeth ar ôl i’w chydnabod”.
Mae Maer Llundain Syr Sadiq Khan hefyd wedi galw am gydnabyddiaeth ar unwaith, tra bod Cyngres yr Undebau Llafur wedi pwyso am gydnabyddiaeth ffurfiol i Balesteina “nid ymhen blwyddyn na chwaith dwy flynedd - ond nawr”.
Llun: Reuters