Pwy yw’r 10 sydd ar restr fer gwobr albwm Cymraeg y flwyddyn 2025?

Cowbois Rhos Botwnnog / Steddfod

Gyda phythefnos i fynd tan ddechrau Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni, mae rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn wedi’i chyhoeddi.

Roedd y wobr eleni yn agored i unrhyw un sydd oedd wedi cynhyrchu albwm Cymraeg yn y cyfnod rhwng 1 Mehefin 2024 a 30 Mai 2025.

Mae’r wobr bellach wedi bod yn rhedeg ers 2014 ac yn cynnwys pob math o arddulliau cerddorol o bop i werin, offerynnol, clasurol a chorawl.

Cowbois Rhos Botwnnog oedd enillwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024 (llun uchod) am eu halbwm, ‘Mynd â’r tŷ am Dro’.

Bwriad y wobr meddai’r trefnwyr yw rhoi’r sylw haeddiannol i'r cynnyrch sy'n cael ei ryddhau gan artistiaid yng Nghymru.

Fe fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn, am 18:10, ddydd Mercher 6 Awst.

Y beirniaid eleni yw: Martha Owen, Nico Dafydd, Elain Roberts, Gruffydd Davies, Branwen Williams a Heulyn Rees.

Dyma’r albymau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni:

Image
Adwaith - Solas

Adwaith - Solas - Recordiau Libertino

Mae Solas, sef trydydd albwm Adwaith ac sy'n dilyn ‘Melyn’ a 'Bato Mato' a enillodd Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2018 a 2022, yn cynnig archwiliad amrwd o hunan ddarganfyddiad. 

“Mae'n ymwneud â dod o hyd i gartref, y lle diogel hwnnw ynoch chi'ch hunain,” meddai Hollie Singer.

Yn gerddorol, maer record yn nodi datblygiad o ddylanwadau ôl-pync cynnar y band, gan dynnu ynghyd tapestri cyfoethog o chwaeth gerddorol sy'n cynnwys elfennau o ABBA, The Cure, Lizzy Mercier Descloux a Jessica Pratt, medden nhw. 

Ysgrifennwyd rhan helaeth o draciau 'Solas’ yn nhŷ Heledd yng ngorllewin Cymru, ac fei recordiwyd ar draws gorllewin Cymru, Lisbon ac Ynysoedd yr Hebrides. 

Yn ôl y band, maer lleoliadau anghysbell hyn wedi dylanwadu ar awyrgylch ysbrydol a thaith gerddorol yr albwm.

Image
Bwncath III

Bwncath - Bwncath III - Sain

Mae Bwncath III, trydydd albwm Bwncath yn llawn o ganeuon newydd gan un o'r bandiau mwyaf prysur Cymru. 

Mae’n cyffwrdd ag amrywiol themau - cariad, breuder bywyd, cyfeillgarwch, unigrwydd a gobaith - a'r naws yn symud drwy hiraeth ac ansicrwydd i gyffro a mwynhad.

Bu'r bum mlynedd ddiwethaf yn gyfnod eithriadol o brysur i'r band gyda galwadau i ganu yn barhaus. O fewn pythefnos i ryddhau eu hail albym, 'Bwncath II', yn 2020, cafwyd dros 100,000 o ffrydiau ar Spotify. 

Derbyniodd y band gydnabyddiaeth tu hwnt i Gymru wrth i'r albwm gyrraedd rhif 27 yn siartiau 'Official Folk Albums Charts UK' gan aros yn y 40 uchaf am bron i flwyddyn gyfan, ymysg enwau fel The Staves a Laura Marling. 

Bellach, mae catalog cerddoriaeth Bwncath wedi derbyn cyfanswm o dros 8 miliwn o ffrydiau ar Spotify.

Image
Don Leisure - Tyrchu Sain

Don Leisure - Tyrchu Sain – Sain

Mae Don Leisure yn un hanner or ddeuawd Darkhouse Family (gyda Earl Jeffers) ac mae wedi cydweithio gydag artistiaid megis Angel Bat Dawid, Gruff Rhys, DJ Spinna ai gyd-gerddorion ar label First world, Amanda Whiting a Tyler Dayley (Children of Zeus). 

Mae hefyd wedi derbyn cefnogaeth a chlod gan Lauren Laverne, Tom Ravenscroft, Huw Stephens, Gilles Peterson, Huey Morgan, The Vinyl Factory, Clash, Uncut ac eraill.

Dros y flwyddyn a aeth heibio mae Sain wedi bod yn gweithio ar brosiect arbennig, ar y cyd gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i ddigidor holl archif. 

Bydd yr archif, syn cwmpasu 55 mlynedd o recordiau, yn cael ei diogelu mewn fformat digidol ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod. 

Bur prosiect digido yn gyfnod o ail-ddarganfod or newydd ac fel rhan o hyn gwahoddwyd Don Leisure i dyrchu yn yr archif werthfawr i greu ffrwydriad o dapestri sonig or hen recordiau llychlyd.

Mae Tyrchu Sain yn albym syn caniatáu i Don roi ei stamp annisgwyl ei hunan ar gyfansoddiadau. 

Maer record yn cynnwys cyfraniadau gan artistiaid eraill o Gymru syn rhannu diddordeb Don Leisure yng ngherddoriaeth Cymrur cyfnod a fu, gan gynnwys Gruff Rhys, Carwyn Ellis, Earl Jeffers, Amanda Whiting a Boy Azooga.

Image
Elfed Saunders Jones - Cofiwch Roswell

Elfed Saunders Jones - Cofiwch Roswell - Klep Dim Trep

Gadewch i leisiau persain Mefus a Mafon (Siwan Morris a Siân Wyn, gynt o Saron) eich tywys ar daith drwy'r cosmos i rywle llawer gwell na'r hen fyd hwn. 

Ac wedi ichi gyrraedd pen draw'r bydysawd wrth wrando ar 'Y Llong Ofod', beth am droi i'r ochr arall, a rhoi tro ar 'Ddowch Chi Efo Ni?', lle mae Hedd (Wyn Wirion) yn ymuno â'r criw i ganu arwyddgan y Credwyr.

Os ydy hyn oll yn swnio braidd yn estron i chi, na phoener – mae eglurhad ar y ffordd yn y frawddeg nesaf. 

Blas yw'r caneuon hyn o opera roc ddiweddaraf Elfed, 'Cofiwch Roswell' – stori sy'n cychwyn yn Aberystwyth ar ddiwedd y 60au. 

Mae myfyrwyr y coleg wedi bod yn diflannu un ar ôl y llall, a neb yn gwybod pam. 

Wrth i'r newyddiadurwr ifanc Geraint Jenkins (Iwan Huws, Cowbois Rhos Botwnnog) geisio cyrraedd gwraidd y stori, buan y daw i sylweddoli y bydd y llwybr yn ei arwain i rywle rhyfeddach nag y gallai byth fod wedi'i ddychmygu.

Image
Gwenno Morgan - Gwyw

Gwenno Morgan - Gwyw - Gwenno Morgan

Dyma albwm cyntaf y cyfansoddwr ar pianydd, Gwenno Morgan, gan blethu dylanwadau clasurol, gwerin a jazz. 

Taith neo-glasurol ydyw syn symud rhwng minimaliaeth a chyfoeth o seiniau amgylchynol, gydar piano yn arwain y ffordd.

Deilliodd y cysyniad ar gyfer yr albwm yn naturiol o brofiadau bywyd, meddai’r artist: galar, torcalon a hiraeth, ond hefyd gobaith a momentwm. 

Y nod yw bod pob newid rhythm yn adlewyrchu syndodau bywyd, gan eich gwahodd i fwynhau harddwch ansicrwydd.

Cyd-gynhyrchodd Gwenno yr albwm gydar cyfansoddwr ar cynhyrchydd o wlad Belg, Arthur Brouns. 

Mae gwyw hefyd yn cynnwys cydweithrediadau gydar sacsoffonydd Jasmine Myra (dail), ar artist Casi Wyn (whatsappio duw).

Image
Gwilym Bowen Rhys - Aden

Gwilym Bowen Rhys - Aden - Recordiau Erwydd

Aden’ yw pumed albwm Gwilym Bowen Rhys, y canwr gwerin o Fethel, ger Caernarfon. 

Mae’n gyfuniad o gyfansoddiadau gwreiddiol a chaneuon traddodiadol gyda dylanwadau gwerin, bluegrass a baróc.

Yn ymuno â Gwilym ar yr albwm mae Gwen Màiri (telyn / telyn deires / harmoniwm), Patrick Rimes (ffidil, fiola, harmoniwm, trombôn), Ailsa Mair (Viola da Gamba), Will Pound (harmonica, melodeon) ac Aled Wyn Hughes (bas dwbwl). Recordiwyd y casgliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog gyda Aled Wyn Hughes.

Mae Gwilym Bowen Rhys wedi sefydlu ei hun fel llysgennad dros y Gymraeg a chanu, gartref yng Nghymru ac ar draws y byd hefyd. 

Cafodd hyn ei gadarnhau gan ei enwebiad ar gyfer Gwobr Canwr Gwerin y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 a thrwy ennill Gwobr yr Artist Unigol Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru.

Image
Pys Melyn - Fel Efeilliaid

Pys Melyn - Fel Efeilliaid – Skiwhiff

Pys Melyn yw Ceiri, Sion, Owain, Owain a Jac o Ben Llŷn, Gogledd Cymru. Maent wedi bod yn gigio ers 2014, rhyddhawyd senglau cyntaf Pys Melyn yn 2018, gyda recordiau Ski-Whiff yn dechrau'r flwyddyn ganlynol er mwyn gallu ryddhau Bywyd Llonydd”, albwm cyntaf y band yn 2021. 

Tynnodd yr albwm cyntaf hwn ar amrywiaeth o ddylanwadau byd-eang ac fe'i dilynwyd gan Bolmynydd’ ym mis Awst 2023, sy'n tynnu ar ystod fwy traddodiadol o ddylanwadau'r 60au/70au. 

Cafodd y ddau eu henwebu am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig. Ar ôl rhyddhau Bolmynydd, teithion nhw o amgylch y DU a Llydaw, gan chwarae mewn lleoliadau fel y Garage yn Llundain a Rough Trade Bryste. 

Yn 2024 rhyddhawyd eu trydydd record, Fel Efeilliaid sydd yn gasgliad amrywiol o ganeuon a traciau instrumentalMae ambell gân wedi cael eu chwarae yn fyw ers rhai blynyddoedd a rhai wedi bod yn eistedd mewn drive yn disgwyl gweld golau dydd ers hirach byth.

Maent hefyd wedi recordio sesiwn BBC6Music i Riley a Coe, cefnogi Gruff Rhys ar y daith Sadness Sets Me Free a Spiritualised yn Focus Wales ym mis Mai, yn ogystal â llu o ŵyliau a gigs ledled y DU yn yr haf fel Green Man a'r Great Escape yn Brighton. 

Cwblhaon nhw eu taith gyntaf yn y DU ym mis Tachwedd 2024 ac maen nhw'n edrych ymlaen, medden nhw, at chwarae mewn mwy o ŵyliau a theithiau yn ogystal â rhyddhau cerddoriaeth newydd yn 2025.

Image
Sywel Nyw - Hapusrwydd yw Bywyd

Sywel Nyw - Hapusrwydd yw Bywyd - Lwcus T

Ar ôl ei albwm cyntaf Deuddeg – Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2022 – daeth Sywel Nyw yn ôl gyda’i ail albwm Hapusrwydd yw Bywyd.

Daw teitl yr albwm o'i drac agoriadol, sy'n cynnwys dyfyniad gan y nofelydd o Rwsia, Dostoevsky.

Maer dyfyniad wedi'i samplo o bregeth a draddodwyd gan y Parchedig Guto Llewelyn. Hapusrwydd yw bywyd - gall pob, gall pob munud fod yn dragwyddoldeb o hapusrwydd.” 

Mae Hapusrwydd Yw Bywyd yn parhau i ddilyn trywydd diweddar yr artist, gan neidion ddyfnach i fyd cerddoriaeth ddawns electronig. 

Wrth ymarfer y grefft o recordio a chymysgu ei hun, ac wrth ddefnyddio mwy a mwy o samplau yn y traciau, maer sain yn symud i ffwrdd onaws indie, gan droin gryfach tuag at House, Disco a cherddoriaeth glwb. 

Yn driw i ethos cydweithredol Sywel Nyw, maer albwm yn cynnwys cymysgedd o leisiau – gan gyflwyno safbwyntiau ffres gan artistiaid newydd fel y nofelydd ar bardd Megan Hunter, tra hefyd yn ail ymweld ag enwau cyfarwydd fel Iolo Selyf (Y Ffug)

Image
Tai Haf Heb Drigolyn - Ein Halbwm Cyntaf Ni

Tai Haf Heb Drigolyn - Ein Albwm Cyntaf Ni - Pendrwm

'Ein Albwm Cyntaf Ni' yw - fel y mae'r enw yn ei awgrymu - albwm cyntaf Tai Haf Heb Drigolyn, wedi ei recordio dros gyfnod o flwyddyn mewn tair stiwdio gartref wahanol: Stiwdio Brynteg, Radio Dyfi ac Ogof Llyfnant.

Maer band yn cynnwys yr aelodau Izak Zjalic, Simon Richards a William P Jones. Recordiwyd traciau rhwng cyfuniad o Ableton a chasét, gyda'r defnydd o'r Tascam Portastudio 424 ar gyfer gweadau anghyson ac ansawdd lo-fi.

Mae'r palet sain a'r geiriau yn amrywiol ar draws yr albwm. Cân gitâr lo-fi ywr trac agoriadol Crancod’ gyda chrescendo synth brawychus o blentyndod syn dod â’r gwrandäwr i mewn ir seinwedd hudolus, tra bod traciau fel T egan’ Mach GP’ yn dod â theimlad o dynerwch a melyster.

Image
Ynys - Dosbarth Nos

Ynys - Dosbarth Nos – Libertino

Mae Ynys, band Dylan Hughes o Race Horses / Radio Luxembourg, wedi rhyddhau eu halbwm Dosbarth Nos (Dosbarth Nos) drwy Libertino Records. 

Mae'r albwm yn dilyn rhyddhau eu halbwm cyntaf a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2023. 

Wedi'i recordio'n fyw dros gyfnod o bedwar diwrnod yn Stiwdios Mwnci yng Ngorllewin Cymru, mae'r albwm yn arddangos esblygiad cerddorol Ynys - gan gofleidio palet sain mwy egnïol ac anturus gyda'i drefniadau deinamig rhyfeddol, a cheisio dal hanfod perfformiadau byw'r band.

Drwy gyfuno dull manwl Hughes o gyfansoddi caneuon, ynghyd ag egni cydweithredol y band, y nod oedd creu albwm yn llawn bwriad a hyder.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.