Y reslar Hulk Hogan wedi marw yn 71 oed
Mae'r reslar a'r actor Americanaidd adnabyddus Hulk Hogan, wedi marw yn 71 oed.
Fe ddaeth adroddiadau fod nifer o gerbydau gwasanaethau brys wedi eu gweld yn ei gartref yn ardal Clearwater o Florida yn yr UDA brynhawn Iau.
Yn cael ei adnabod am ei garisma a'i ddawn perfformio, fe chwaraeodd Hulk Hogan ran fawr yn y broses o drawsnewid reslo proffesiynol yn gamp adloniant i'r teulu.
Mewn teyrnged iddo ddywedodd y ffederasiwn reslo, WWE mai'r Hulk (a oedd hefyd yn cael ei adnabod fel yr Hollywood Hogan) oedd un o “ffigyrau mwyaf adnabyddus” y gymuned reslo fodern.
"Roedd Hogan, a gafodd fel Terry Gene Bollea, wedi chwarae rhan greiddiol yn llwyddiant WWE yn yr 1980au", ychwanegodd y datganiad.
“Rydym yn ymestyn ein cydymdeimladau i deulu, ffrindiau a chefnogwyr Hogan.”
Fe ddechreuodd ei yrfa ddisglair fel reslar yn 1977.
Roedd yn enw adnabyddus erbyn dechrau'r 80'au, ar ôl arwyddo cytundeb gyda’r WWF, fel yr oedd yn cael ei adnabod ar y pryd.
Daeth yn seren y byd realiti yn y cyfnod ers hynny, a hynny gyda’i gyfres deledu Hogan Knows Best a gafodd ei ddarlledu ar VH1 rhwng 2005 a 2007.