Cynnydd o 6.5% yn y niferoedd sy'n aros dros ddwy flynedd am driniaeth meddygol

ITV Cymru

Cynnydd o 6.5% yn y niferoedd sy'n aros dros ddwy flynedd am driniaeth meddygol

Fe wnaeth yr amseroedd aros hiraf am driniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd gynyddu ym mis Mai, yn ôl eu ffigyrau perfformiad diweddaraf.

Mae nifer y bobl sy'n aros am fwy na dwy flynedd am driniaeth ysbyty wedi codi i bron i 10,300 - cynnydd o 6.5% o fis i fis.

Mae 614,300 o gleifion unigol yng Nghymru ar y rhestr aros am driniaeth - gyda dros 75,500 yn aros dros flwyddyn am eu hapwyntiad allanol cyntaf. Mae hyn yn gynnydd o'r mis blaenorol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: "Mae'n siomedig gweld yr amseroedd aros hiraf am driniaeth yn cynyddu ar ôl i ni leihau'r rhain yn y misoedd diwethaf, ond mae’n 85% yn is na phan oedden nhw ar eu gwaethaf."

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd yn ymweld ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddydd Iau,  lle mae’r llywodraeth yn dweud bod gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud i leihau amseroedd trosglwyddo cleifion ambiwlans hir.

Ledled Cymru, mae nifer y bobl sy'n aros am fwy nag awr i drosglwyddo o ambiwlans i adran frys wedi cwympo bron i 20%.

Ond targed Llywodraeth Cymru yw sicrhau nad oes unrhyw gleifion yn aros mwy na 12 awr yn yr adran frys, sy’n uchelgais sydd dal yn bell o’i gyflawni.

Er bod yr arosiadau hiraf ar gyfer cleifion mewn adrannau achosion brys wedi lleihau 2.3% o fis i fis, bu 10,133 o bobl yn dal i aros am 12 awr neu fwy mewn adran frys ym mis Mehefin.

Mae tîm cenedlaethol wedi'i sefydlu i leihau'r oedi wrth drosglwyddo cleifion ambiwlans ar draws Cymru, gan helpu i gyflymu trosglwyddiad pobl i adrannau brys a rhyddhau criwiau ambiwlans i ymateb i alwadau 999 yn y gymuned.

Image
Ysbyty
Llun: ITV Cymru

Wrth ymateb i'r ystadegau gweithgareddau a pherfformiad diweddaraf GIG Cymru, dywedodd llefarydd ar ran GIG Cymru bod darlun cymysg wedi'i baentio ar gyfer y system iechyd a gofal.

Dywedodd Cyfadran GIG Cymru, er mwyn gweld gwelliannau yn y system gyfan, fod angen mwy o arian.

Dywedodd James Evans AS, Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r Wrthblaid fod y ffigyrau diweddaraf "yn profi bod strategaeth iechyd Llafur yn methu."

Dywedodd Mr Evans: "Mae'r cynnydd yn cael ei ddadwneud ac mae'n glir bod y Llywodraeth Cymru hon wedi rhedeg allan o syniadau.

"Ni ddylai neb fod yn aros dros flwyddyn am driniaeth. 

"Dyna pam y byddai Ceidwadwyr Cymru yn datgan argyfwng iechyd, i sicrhau bod adnoddau ac ymdrechion y Llywodraeth gyfan yn targedu lleihau'r arosiadau gormodol hyn."

Yn y cyfamser, dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor MS: “Mae gweld yr amseroedd aros yn cynyddu unwaith eto yn fater o siom fawr i bobl Cymru. Cwta 26 mlynedd o fod yn gyfrifol am ein GIG, mae Llafur wedi siomi Cymru.

"Ar ôl gwastraffu cannoedd o filiynau ar fynd i’r afael â rhestrau aros, a methu, mae'n amlwg bod amser Llafur wedi dod i ben.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.