Dyn o Glynnog Fawr yn pledio'n ddieuog i greu delweddau anweddus o blant
Mae dyn o Wynedd wedi ymddangos yn Llys y Goron ddydd Iau i wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â lluniau anweddus o blant, ac o gyfathrebu mewn modd rhywiol gyda phlentyn.
Yn siarad o’r doc yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, fe gadarnhaodd Jonathan Hughes-Evans, 39 oed o Lwyn y Ne, Clynnog Fawr ei enw, ac fe gyflwynodd ple o ddieuog i gyhuddiadau yn ei erbyn, gydag un o'r cyhuddiadau yn ymwneud â gwneud lluniau symudol o'r math gwaethaf (Categori A) o blentyn, a hynny mewn modd rhywiol.
Mae Evans hefyd wedi ei gyhuddo o geisio cyfathrebu mewn modd rhywiol gyda phlentyn dan 16 oed na ellir ei enwi oherwydd rhesymau cyfreithiol.
Oherwydd argaeledd y llys a’r bargyfreithwyr yn yr achos, nid oes modd i’r achos ddechrau hyd nes y 5 Mai, 2026.
Cafodd ei ryddhau o'r llys ar fechnïaeth ddiamod.