Cyffur colli pwysau wedi 'rhoi bywyd yn ôl' i ddynes o Wynedd

Newyddion S4C

Cyffur colli pwysau wedi 'rhoi bywyd yn ôl' i ddynes o Wynedd

Mae dynes o Wynedd wedi dweud bod defnyddio’r cyffur colli pwysau Mounjaro wedi "rhoi ei bywyd yn ôl" iddi.

Mae Annie Maycox o Bontllyfni yn byw gyda phroblemau gyda’i chefn a chyflyrau iechyd eraill gan ddweud bod cadw’n heini drwy ymarfer corff wedi bod yn amhosib.

A hithau wedi colli tair stôn a naw phwys mewn pedwar mis, mae hi'n dweud bod defnyddio chwistrelliad colli pwysau wedi trawsnewid ei bywyd ac yn dweud bod cyfle i’r math yma o driniaeth arbed pres i’r Gwasanaeth Iechyd.

Tra bod pryderon wedi’w codi dros sgil effeithiau hir dymor y pigiadau, mae disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad dros ddefnydd ehangach cyffuriau tebyg maes o law.

Yn ôl Annie Maycox, sy’n 41 oed, mae hi'n teimlo bod hi wastad wedi “bod yr hogan bach plump”.

“Dwi’n teimlo bo fi ‘di byw bywyd fi fel yr hogan mwyaf doedd ddim yn ffitio ar set y ar y plên a cael fy mwlio am fod yn dew yn ysgol”.

Mae’n dweud bod troi at fwyd am gysur wedi deillio o drawma pan yn blentyn.

Coping mechanism i fi oedd troi at da-das a sothach fel form o copio fel yn blentyn, a dwi’n teimlo dwi di mynd a hwna o plentyndod fi i lle dwi rŵan,” meddai.

Ers yn 20 oed mae Annie hefyd wedi dioddef problemau gyda’i chefn yn ogystal â chyflyrau iechyd eraill sy’n gwneud ymarfer corff yn anodd, a bod hynny wedi arwain at gynnydd yn ei phwysau gan achosi iddi golli hyder.

“Ma’n cal chdi lawr yn uffernol, dwi di gweld fy hun dros y chwe mlynedd diwethaf jest yn rhoi pwysau ar, ac mae hynna yn cael fi’n fwy isel,” meddai.

Ar ôl troi at feddygon ac am gymorth gan y gwasanaeth iechyd, mae Annie yn dweud bod prynnu Mounjaro fel modd o golli pwysau wedi bod yn benderfyniad anodd ond yn un cywir iddi hi.

Ers defnyddio’r cyffur mae’n dweud iddi golli tair stôn a naw phwys mewn cwta bedwar mis, ac mae'n gobeithio colli rhagor.

“Be sy’n bwysig ifi ydi, dwi di neud hwn ifi a neb arall,” meddai.

“Mae calon fi’n teimlo’n hapusach, dwi’n teimlo’n fwy hyderus ac yn fwy content a be mae di rhoi ifi ydi bywyd fi’n nol.”

Mae Annie yn cydnabod nad ydy’r cyffur yn iawn i bawb ac mae’n derbyn bod pryderon gan y gallai pobl fregus archebu’r cyffur arlein heb ddigon o wirio.

Dweud mae Llywodraeth Cymru bod meddyginiaethau colli pwysa “ar gael drwy raglen colli pwysau arbenigol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru”.

“Rydym yn ystyried sut fydd meddyginiaethau tebyg ar gael drwy ofal cychwynnol yn y dyfodol,” meddai llefarydd.

Gyda phenderfyniad dros ddefnydd ehangach cyffuriau fel Mounjaro eto i ddod, dweud mae Cyn-Gadeirydd y BMA yng Nghymru, Dr Phill White, bod cwestiynau o hyd am sut mae modd derbyn y driniaeth ar hyn o bryd.

“Da ni 'di gweld cynnydd aruthrol yn y nifer sy’n mynd yn breifat a 'da ni’n poeni braidd am hyn,” meddai.

Image
Dr Phill White
Dr Phill White, Cyn-Gadeirydd y BMA yng Nghymru

“Ma’n iawn os ydi’r fferyllydd lleol yn rhoi cyngor i chi ac yn gweld chi, ond da ni’n gweld lot o bobl arlein yn archebu y pethau arlein heb i neb weld nhw.”

Er y pryderon am y sgil effeithiau hir dymor hefyd, dweud ma Dr White pe bai’r cyffuriau yn cael eu cymeradwyo y gallai nhw fod yn gymorth i wella iechyd cyhoeddus.

“Mae sgil effeithiau iechyd o ran cario pwysau felly o bosib sa’n arbed pres i’r gwasanaeth iechyd yn y tymor hir os di bobl yn colli pwysau, llai o risg o glefyd siwgr a chlefyd y galon,” meddai.

Ond yn ôl yr hyfforddwraig personol Ffion Hewson, sydd wedi sefydlu cwmni Newid, rhaglen i gynnig cymorth i bobl golli pwysau a byw yn iach, mae angen gwella mynediad at ymarfer corff.

“Mae ‘na ormod o bethau afiach a bwydydd afiach sy’n hawdd,” meddai.

“Ma isio i ni newid hynny a gwneud pethau iach yn hawdd, dyna ydi’r challenge mawr sydd ganddo ni ar ein dwylo a dyna pam dwi’n neud be dwi’n neud rŵan.

“Dod allan i’r gymuned ac yn gweithio efo pobl i neud o’n hawdd iddy nhw.”

Gan ddweud bod angen mwy o bwyslais ar gadw’n iach ac yn heini a gwella mynediad, mae’n cydnabod bod lle o bosib i feddyginiaeth fel Mounjaro mewn rhai sefyllfaoedd.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad terfynol ar ymestyn y defnydd o gyffuriau fel Mounjaro yng Nghymru maes o law.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.