
Canser yn 19 oed: 'Mae fy mywyd i wedi newid am byth'
Canser yn 19 oed: 'Mae fy mywyd i wedi newid am byth'
Mae dynes 19 oed o Wynedd sy'n byw gyda chanser yr ofarïau yn rhannu ei phrofiad ar-lein yn y gobaith o godi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc.
Fe aeth Enlli Thompson o Ddyffryn Nantlle at ei meddyg teulu ym mis Mawrth y llynedd gan fod ganddi gur yn ei phen a phoenau yn ei hystumog.
Gyda'r boen yn parhau, roedd y meddyg teulu yn amau fod gan Enlli appendicitis, ac fe wnaeth ddweud wrthi fynd i'r adran achosion brys yn yr ysbyty.
"Oedd genna fi boen adag period fi o'dd yn teimlo bach gwaeth ag o'n i yn stryglo i fwyta felly o'n i'n meddwl mai problem bwyta oedd o, ond nes i fyth meddwl fod gen i ganser neu rwbath yn mater efo'r ovaries," meddai wrth Newyddion S4C.
Yn ôl elusen Ovacome, mae tua 7,500 o achosion newydd o ganser yr ofarïau bob blwyddyn yn y DU.
Nid yw mwyafrif yr achosion o'r canser yn cael eu darganfod yn y camau cynnar am nifer o resymau, gan gynnwys y ffaith fod yr ofarïau yn ddwfn yn y pelfis ac yn anodd i'w harchwilio, a bod y symptomau yn rhai cyffredin sy'n cael eu cam-gymryd am gyflyrau eraill.

Wedi iddi fynd i'r adran achosion brys ym mis Hydref, fe wnaeth meddygon ddarganfod màs ar ofari Enlli ac o fewn ychydig wythnosau, roedd wedi tyfu yn sylweddol.
"O'n i kind of yn gwybod o Rhagfyr rili bod 'na wbath ddim yn iawn ond gesh i llawdriniaeth cyntaf ddechra Chwefror a tair wsos wedyn gesh i results fi, sef low grade serous ovarian cancer stage 3a," meddai.
"Rili sioc pan nesh i ffeindio allan yn A&E. Toedd o ddim yn sioc pan gesh i’r diagnosis canser ‘na, yr unig sioc oedd ffeindio bod o ar y womb a bo’ fi’n gorfod cael hysterectomi, oedd hwnna yn anodd."
Erbyn i'r canser achosi symptomau a'i fod wedi ei ddarganfod, mae wedi ymledu y tu allan i'r ofarïau i'r pelfis (cam 2), yr abdomen (cam 3) neu tu hwnt i'r abdomen (cam 4), yn ôl Ovacome.
Mae rhai o'r symptomau mwyaf cyffredin yn cynnwys chwyddo (bloating) parhaus, anhawster bwyta a theimlo'n llawn yn gyflymach, poen yn yr abdomen a'r pelfis yn ddyddiol a newidiadau i'ch wrin neu goluddyn.

Roedd yn rhaid i Enlli wynebu triniaeth ffrwythlondeb, a hithau ond yn 19 oed.
"Oedd bob dim jest yn mynd trwy meddwl fi, so obviously oedd fertility fi, o’n i yn mynd i golli hwnna i gyd, do’n i ddim yn gwybod be oedd yn mynd i ddigwydd o ran cadw wyau fi, os oedd hwnna yn mynd i fod yn successful," meddai.
"Dwi byth yn mynd i allu cario plant fy hun, a mae o’n hormonal hefyd, ma’r hormones yn tyfu’r canser, so dwi byth yn mynd i allu cael HRT na dim fel ‘na i helpu efo symptomau’r menopos.
"Ma’ ‘na lot o betha sydd wedi newid yn bywyd fi, a fydd o wedi newid am byth, rili."
Fe benderfynodd Enlli rannu a dogfennu ei phrofiad ar blatfform TikTok, yn y gobaith o addysgu eraill o'r canser ac i godi ymwybyddiaeth.
"Ma’n ofnadwy o bwysig i godi’r ymwybyddiaeth ddim jest efo cael y canser, ond y broses o’r treatment, bod o’n iawn i deimlo ddim yn iawn ‘lly, a’r cymorth sy’ ‘na allan i bobl ifanc, rili," meddai.
"Dwi obviously isio codi awareness yn ovarian cancer chos ma’n rili sgeri bo’ pobl ddim yn ffeindio allan, dwi isio pobl feddwl ‘O na’i fynd i checio poen fi."
Ychwanegodd Enlli: "So o’n i’n meddwl nai ddechra’r TikTok, dim jest i fi achos mae o wedi helpu fi lot, tynnu meddwl fi off petha, rhoi rwbath i fi neud tra dwi’n styc yn tŷ efo’r chemo a ‘ballu.
"Mae o hefyd yn mynd i godi awareness i’r canser, a helpu pobl eraill sydd ella yn mynd trwy chemo neu canser diagnosis nhw, especially efo’r gwallt, ma’ lot o bobl wedi messagio yn deud bod hwnna di helpu nhw."

Neges Enlli i unrhyw un sy'n profi symptomau parhaus yw peidio â'u hanwybyddu.
"Os ‘da chi’n cael y symptoms ‘na yn reoccurring a ‘da chi ddim yn gwbo be’ sy’, ewch yn ôl i GP, peidiwch meddwl bo’ chi’n hasl neu bo’ chi’n broblam iddyn nhw, ‘da chi’n ‘nabod corff eich hun, jest ewch," meddai.
Bydd Enlli yn derbyn ei thrydedd sesiwn cemotherapi ddydd Mawrth nesaf, ac mae'n edrych ymlaen at y dyfodol.
"Ma’ gen i pedwar sesiwn ar ôl so’r chemo nesa dydd Mawrth, a dwi fod i orffan erbyn diwadd mis Medi, ag alla i ddim gwitchiad," meddai.
"Dwi ‘di dechra bwcio petha yn barod i flwyddyn nesa, ag allai’m gwitchiad, ddim i fynd yn ôl i normal ‘chos nai byth fod yr un person ond jest mynd yn ôl i ryw fath o normality."

Fe dderbyniodd Enlli gymorth gan Rachel Driver, sef gweithiwr cymdeithasol gydag elusen Young Lives vs Cancer.
Mae'r elusen yn helpu plant a phobl ifanc hyd at 25 oed a'u teuluoedd, gyda'r gweithwyr cymdeithasol yn darparu cefnogaeth ddyddiol i bob plentyn neu berson ifanc.
Mae'r elusen hefyd yn darparu llety yn agos at ysbytai, lle mae modd i deuluoedd aros am ddim yn ystod triniaeth.
"Dwi'n darparu'r gefnogaeth anfeddygol. Ni ddylai person ifanc gael diagnosis o ganser. Nid yw'n beth sy'n ddisgwyliedig," meddai Rachel wrth Newyddion S4C.
"Dylech chi fod yn cael amser gwych fel person ifanc, yn mynd allan, yn meddwl am eich addysg, cyflogaeth, ac mae hyn yn sioc go iawn i berson ifanc a'u teulu.
"Felly rydyn ni'n helpu i lywio pobl ifanc trwy fyd newydd brawychus iawn maen nhw'n ei wynebu."
'Mor falch ohoni hi'
Mae Rachel yn falch iawn o Enlli.
"Dwi mor falch ohoni hi, mae hi wedi datblygu yn fawr, mae hi wedi wynebu sawl her yn ystod ei diagnosis ac wedi bod yn agored iawn am hynny," meddai.
"Mae'n rhoi gymaint o bleser i mi weld pobl ifanc yn symud ymlaen o amser anodd yn eu bywyd, ac rydym ni'n darparu blwyddyn o gefnogaeth ar ddiwedd eu triniaeth, dydyn ni ddim jest yn diflannu oherwydd 'dan ni'n gwybod pa mor anodd ydy'r cyfnod ar ddiwedd triniaeth i rywun."
Ychwanegodd Rachel: "Rydym yn helpu nid yn unig gyda'r elfen gorfforol, ond gyda'r ochr emosiynol a bod yno bob amser i annog, i ysgogi ac i wrando ar anghenion pobl ifanc."
"Mae'n hollbwysig fod pobl ifanc sy'n wynebu her fel canser yn ymwybodol ohonom ni fel eu bod nhw'n ymwybodol o'r gefnogaeth ariannol, emosiynol ac ymarferol sydd ar gael iddyn nhw."