Gwynedd: Ymchwiliad heddlu wedi i gyrff da byw gael eu gadael mewn coedwig
Mae'r heddlu a safonau masnach yn ymchwilio yn dilyn "nifer o ddigwyddiadau" lle mae cyrff da byw wedi cael eu gadael mewn coedwig yng Ngwynedd.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod cyrff da byw wedi cael eu darganfod mewn coedwig ym Mwlch-derwin ym Mhant Glas, Garndolbenmaen.
Roedd y digwyddiad diweddaraf yn ymwneud â gadael gweddillion llo yn y lleoliad.
"Mae hyn yn anghyfreithlon ac yn destun pryder," meddai llefarydd ar ran y llu.
"Os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth, byddem yn ddiolchgar pe byddech yn cysylltu â ni neu safonau masnach."
Llun: Google Maps