Cynnal gwasanaeth coffa i aelod o'r ffermwyr ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae gwasanaeth yn cael ei gynnal fore Sadwrn i gofio am ddynes 18 oed a gafodd ei lladd mewn gwrthdrawiad car yn Sir Gaerfyrddin.
Bu farw Sally Allen o Gei Cresswell, Sir Benfro ar yr A40 yn Nerwen Fawr rhwng Caerfyrddin a Llandeilo fore Mercher.
Mae Ewcharist yn cael ei gynnal yn Eglwys Jeffreyston am 10.30am ddydd Sadwrn.
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei theulu bod y bwlch y mae hi wedi ei adael yn "enfawr."
Roedd Sally Allen yn aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Martletwy yn Sir Benfro.
Dywedodd CFFI Martletwy ei bod hi wedi marw wrth ddychwelyd o'r Sioe Frenhinol fore Mercher.
"Sally oedd y person cynhesaf a mwyaf cariadus a chyda'i gwên fawr, byddai'n goleuo'r ystafell.
"Roedd hi bob amser yn hael iawn gyda'i chwtshys a'i chyngor. Roedd hi'n ffrind i bawb, ifanc neu hen," meddai'r clwb.
Teyrngedau'r Ffermwyr Ifanc
Mae Ffederasiwn ffermwyr ifanc Sir Benfro a chlybiau'r sir hefyd wedi rhoi teyrngedau, ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth i'w haelodau wrth iddyn nhw ddygymod â'r golled.
Dywedodd Ffederasiwn Sir Benfro eu bod yn cydweithio gydag elusennau.
"Mae aelodau, swyddogion a ffrindiau Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Benfro wedi torri eu calonnau wrth glywed am farwolaeth drasig Sally Allen, aelod annwyl o CFfI Martletwy," meddai eu datganiad.
"Roedd Sally yn rhan annwyl iawn o deulu CFfI, ac mae ei cholled yn cael ei theimlo'n fawr gennym ni i gyd.
"Rydym yn estyn ein cydymdeimlad diffuant i deulu, ffrindiau a phawb oedd yn adnabod a charu Sally. Mae ein meddyliau gyda chi yn ystod yr amser anodd hwn.
"Yn y dyddiau nesaf, rydym yn gweithio'n agos gyda Sefydliad DPJ a Sandy Bear i sicrhau bod cefnogaeth ar gael i holl aelodau CFfI yn Sir Benfro ac ar draws cymuned ehangach CFfI."
Dywedodd Clwb Ffermwyr Ifanc Hermon yn Sir Benfro: "Yn dilyn y newyddion hynod o drist am farwolaeth Sally, aelod brwd o CFfI Martletwy ac yn ffrind ffyddlon i nifer, hoffwn fel clwb, estyn ein cydymdeimladau dwys i’r teulu, ffrindiau a’r gymuned oll yn ystod yr amser caled hwn.
"I unrhyw un sydd yn chwilio am gymorth yn dilyn y newyddion torcalonnus hyn; peidiwch fod ofn gofyn. Nid ydych ar ben eich hun."
Ychwanegodd Clwb Ffermwyr Ifanc Llys-y-Frân: "Yn aelod annwyl o deulu CFfI Sir Benfro - gwnaeth Sally argraff barhaol ar bawb roedd hi wedi cyfarfod.
"Hoffem gynnig ein cydymdeimlad diffuant i'w holl deulu, ffrindiau ac i bawb yn CFfI Martletwy yn ystod yr amser anodd hwn."
Dywedodd Clwb Ffermwyr Ifanc Tiers Cross y bydd "nifer yn ei cholli a bydd ei hatgofion yn cael eu trysori am byth."
Bydd Ysgol Greenhill yn Ninbych y Pysgod, lle'r oedd Sally yn gyn ddisgybl, ar agor ddydd Llun 28 Gorffennaf o 10:00-12:00 i gynnig lle tawel, cefnogol i ddisgyblion, ffrindiau ac aelodau'r gymuned ddod at ei gilydd.
Gwrthdrawiad
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ddydd Mercher eu bod wedi cael eu galw i wrthdrawiad rhwng dau gerbyd am 08:00 fore Mercher ar ffordd yr A40 yn Nerwen Fawr rhwng Caerfyrddin a Llandeilo.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng cerbyd Renault Clio coch a cherbyd Audi Q5 glas.
Bu farw'r fenyw oedd yn gyrru'r Renault yn y fan a'r lle.
Fe gafodd y teithwyr yn y cerbyd arall eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau nad ydynt yn peryglu bywyd.
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu oedd yn yr ardal ar y pryd sydd â lluniau dashcam i gysylltu â nhw .
Llun Teulu