Jac Morgan yn chwarae rhan bwysig wrth i'r Llewod ennill y gyfres yn erbyn Awstralia
Chwaraeodd Jac Morgan ran bwysig wrth i'r Llewod sgorio eu cais buddugol a sicrhau'r gyfres yn erbyn Awstralia.
Gyda munud yn weddill roedd y Llewod yn colli 26-24.
Wrth i'r gwrthwynebwyr agosáu at y llinell gais, llwyddodd Morgan i glirio'r amddiffynnwr o Awstralia cyn iddo allu rhyngipio'r bêl.
Yn syth wedi hynny, pasiodd Jamison Gibson-Park y bêl i Hugo Keenan a sgoriodd i ennill y gêm a'r gyfres.
Roedd oedi wrth i'r dyfarnwr wirio bod gweithred Jac Morgan yn gyfreithlon, ac roedd y Cymro yn wên o glust i glust wedi i'r dyfarnwr gadarnhau bod y cais yn sefyll.
Yr hanner cyntaf
Wedi perfformiad gwael y penwythnos diwethaf, Awstralia ddechreuodd gryfaf ym Melbourne gyda dwy gic yn eu rhoi 6-0 ar y blaen.
Sgoriodd bachwr y Llewod, Dan Sheehan bwyntiau cynta'r ymwelwyr gyda chais wedi 17 munud, ond methodd Finn Russell â sicrhau'r ddau bwynt ychwanegol.
Ymatebodd y Wallabies yn wych drwy sgorio tri chais mewn llai na 15 munud trwy James Slipper, Tom Wright a Jake Gordon.
Gyda'r tîm cartref ar y blaen, roedd y Llewod yn gwthio i geisio lleihau'r bwlch yn y sgôr cyn yr hanner.
Daeth dau gais cyn 40 munud trwy Tom Curry yn y gornel a'r canolwr Huw Jones. 23-17 i Awstralia ar yr egwyl.
Yr ail hanner
Doedd y naill dîm yn gallu creu cyfleoedd ar ddechrau'r ail hanner, ond Awstralia lwyddodd i ymestyn eu mantais trwy gic gosb gan Tom Lynagh.
Wedi 55 munud, camodd Jac Morgan ar y cae i chwarae ei gêm brawf gyntaf i’r Llewod, gyda bloedd fawr gan y Cymry yn y dorf wrth iddo ymddangos ar y sgrin fawr yn y stadiwm.
Bedair munud yn ddiweddarach, sgoriodd y Llewod eu trydydd cais wrth iddyn nhw gyfeirio'r bêl at yr asgell chwith tuag at Tadhg Beirne, a frwydrodd dros y llinell gais.
Roedd Russell yn llwyddiannus yn ychwanegu'r ddau bwynt ychwanegol. 26-24 i Awstralia.
Parhaodd y frwydr rhwng y ddau dîm tan y munudau olaf, cyn i'r Llewod sgorio ar 79 munud a sicrhau'r gyfres.
Dyma'r tro cyntaf i'r Llewod ennill y gyfres wedi'r ddwy gêm agoriadol, ers iddyn nhw gyflawni hynny yn Ne Affrica yn 1997.