
'Balch iawn': Dynes o Abertawe yn hel atgofion am ei thaid, un o Lewod 1938
Wedi i'r Llewod ennill y gêm gyfres yn erbyn Awstralia ym Melbourne ddydd Sadwrn, mae wyres cyn aelod o’r tîm yn dweud ei bod wedi dod i adnabod ei thad-cu o'r newydd ar ôl i aelod o'r teulu ddarganfod ei ddyddiaduron.
Cafodd George Cromey, gweinidog 25 oed o Bushmills, Gogledd Iwerddon, ei ddewis i fod yng ngharfan y Llewod ar gyfer y daith i Dde Affrica yn 1938.
Yn wahanol iawn i aelodau carfan 2025, roedd yn rhaid i’r chwaraewyr amatur dalu am y fraint o gael chwarae i'r Llewod yn y 1930au, gan gynnwys costau swmpus am yswiriant a siwt.
Gan fod George Cromey wedi ymrwymo i dreulio rhai misoedd oddi cartref, roedd yn rhaid iddo weithio fel offeiriad ar y daith yn eglwysi De Affrica, yn aml y diwrnod ar ôl gêm.

Yn ôl ei wyres, Catherine Cromey, sydd yn byw yn Abertawe, roedd ei thaid, a fu farw yn 2006, yn ddyn diymhongar. Doedd o ddim wedi rhannu llawer am ei yrfa rygbi gyda hi.
Ond wedi i’r teulu ddarganfod ei ddyddiaduron ychydig flynyddoedd yn ôl, mae hi’n dweud ei bod wedi mwynhau dod i adnabod ei thad-cu mewn golau gwahanol.
“Fe wnaeth un o’r teulu ddod ar draws y dyddiaduron, ac mae ganddyn ni gopïau ohonyn nhw ac erthyglau papur newydd amdano,” meddai Catherine, sydd yn fam i ddau o blant.
“Dw i wrth fy modd yn darllen am ei hanesion.
“Fe fyddai wedi synnu a gwirioni gyda’r sylw y mae wedi cael, oherwydd ei fod yn ddyn preifat a diymhongar.”
Curo yn Cape Town
Yn faswr oedd yn bum troedfedd a phum modfedd o daldra, fe fyddai Mr Cromey wedi cael ei ystyried yn chwaraewr bychan ei faint yn ôl safonau heddiw.
Ond mawr oedd ei dalent, wedi iddo ennill naw cap dros Iwerddon yn ystod ei yrfa. Fe ddaeth ei ddyddiau chwarae rygbi i ben yn sgil yr Ail Ryfel Byd.
Yn ystod y daith, fe chwaraeodd Cromey mewn sawl gêm, ond ni chafodd ei ddewis yn y tîm ar gyfer y ddau brawf cyntaf yn erbyn De Affrica – dwy gêm a gollodd y Llewod, gan golli’r gyfres.
Ond cafodd ei ddewis i fod yn rhan o'r tîm ar gyfer y prawf olaf yn Cape Town ar 10 Medi. Roedd ei ddylanwad ar y gêm yn amlwg wrth i’r Llewod lwyddo i guro 21-16 yn Cape Town.
Er iddyn nhw golli’r gyfres, mae taith y Llewod yn 1938 yn cael ei chofio yn bennaf am fod yr un ddiwethaf i’r tîm wisgo cit las.
“Mae 'na lyfrau wedi bod amdanyn nhw, y Llewod Glas, fel maen nhw wedi cael eu galw.
“Fe wnaethon nhw deithio i Dde Affrica ar gwch, felly mi oedd o’n gyfnod gwahanol iawn i rŵan, a chyfnod arbennig.
“Fel teulu, mae 'na rhai ohonon ni yng Nghernyw, Lloegr, Canada, Cymru ac wrth gwrs Gogledd Iwerddon, ac rydan ni’n falch iawn o’r hyn wnaeth o gyflawni – ar y cae rygbi ond hefyd fel tad a thaid.”
Yn dilyn y daith, fe wnaeth Cromey wasanaethu fel caplan i’r Awyrlu yn Ystod yr Ail Ryfel Byd, cyn dychwelyd i’w Sir Antrim enedigol.
Er ei fod wedi hen ymddeol o’r gamp erbyn i Catherine gael ei geni, roedd yn mwynhau cwmni ei thaid.
“Roedd o’n siarad yn aml am ei gariad tuag at rygbi, ond ddim yn aml am yrfa ei hun. Fe wnaeth o gael gwared ar lot o’r memorobillia. Mae gan y teulu un o’i gapiau Iwerddon, ond dyna fo.
“Ond os oeddech chi’n gallu ei gael o i chwarae rygbi, roedd yn amlwg fod ganddo dal y sgil a’r cyflymder. Ond doedd o byth yn gwneud ffýs – roedd o’n canolbwyntio ar gefnogi ni yn ein chwaraeon ni.
"Ei deulu a’i waith fel gweinidog oedd y pethau pwysicaf iddo, ac mi roedd yn ddyn arbennig iawn.”
Bydd uchafbwyntiau ail brawf y Llewod yn erbyn Awstralia am 20.00 nos Sadwrn ar S4C.
Prif lun: Catherine Cromey a Geroge Cromey gyda rhai o'i gyd-Lewod yn 1938 (trydydd o'r chwith)