Carchar i ddyn o Fôn am gam-drin dau fachgen yn rhywiol
Mae dyn o Ynys Môn wedi cael gwybod y bydd yn treulio dwy flynedd yn y carchar ar ôl cam-drin dau fachgen yn rhywiol.
Roedd Jonathan Evans, 32, o Falltraeth wedi bod yn swyddog gyda chadetiaid awyr ac yn dechnegydd mewn labordai ysgol.
Fe wnaeth rheithgor ei gael yn euog o naw cyhuddiad yn gysylltiedig â’r honiad o gam-drin rhywiol, gan gynnwys cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn gan berson mewn safle o ymddiriedaeth, ac annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol.
Roedd Evans wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, cafodd wybod y bydd yn treulio dwy flynedd yn y carchar a dwy flynedd dan drwydded.
Mae Evans hefyd wedi derbyn Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am gyfnod amhenodol.
‘Ofnus’
Yn ystod yr achos, clywodd y llys bod Mr Evans wedi bod yn cam-drin y ddau fachgen dros gyfnod o dair blynedd.
Fe wnaeth Evans gyffwrdd â’r dioddefwr cyntaf gyda phren mesur mewn modd anweddus. Ar achlysur arall, fe wnaeth ei gyffwrdd mewn ffordd rywiol ac amhriodol.
Roedd Evans hefyd wedi anfon negeseuon o natur rywiol i’r bachgen dros Snapchat.
Dywedodd y barnwr Nicola Jones fod y dioddefwyr wedi meddwl ar y pryd fod ymddygiad Evans yn "banter".
“Ond pan ddaeth y dioddefwr yn oedolyn a chael plentyn ei hun, fe sylweddolodd mai camdrin plentyn oedd hyn,” ychwanegodd y barnwr.
Roedd yr ail ddioddefwr honedig wedi bod yn "mewn sioc" ac yn "ofnus ar ôl cael ei gam-drin, wyneb yn wyneb a dros negeseuon Snapchat, dros gyfnod o bymtheg mis".
Roedd Evans wedi cyffwrdd yn y bachgen mewn ffordd amhriodol ar ôl iddo blygu drosodd i agor oergell. Roedd yn gofyn cwestiynau amhriodol i’r bachgen, oedd yn 14 a 15 oed yn ystod cyfnod y cam-drin, ac roedd wedi rhoi condom iddo.
Ar un achlysur, fe wnaeth Evans ddangos ei bidyn i’r bachgen a’i annog i’w gyffwrdd. Fe wnaeth y bachgen wrthod, ond fe wnaeth Evans barhau i annog iddo anfon lluniau anweddus o’i hun.
Clywodd y llys bod cydweithiwr i Evans wedi codi pryderon am ei ymddygiad.
"Roedd hi'n teimlo nad oedd neb yn gwrando arni," meddai'r Barnwr Jones wrth y rheithgor wrth grynhoi'r dystiolaeth.
Dywedodd y barnwr fod Evans wedi disgwyl am gyfnod o bron i bedair blynedd rhwng cael ei arestio a’i gyhuddo, a bod hynny yn ffactor wrth benderfynu ar ddedfryd.
Roedd Evans yntau yn ifanc dros gyfnod y cam-drin ac yn “anaeddfed”, yn ôl Anna Price, oedd yn ei amddiffyn.
‘Effeithio ar bob agwedd o fy mywyd’
Yn ei ddatganiad i’r llys a ddarllenwyd gan y bargyfreithiwr Josh Gorst, a oedd yn erlyn, dywedodd y dioddefwr cyntaf bod y gamdriniaeth wedi “gadael hoel” arno.
“Nid yw Mr Evans wedi dangos unrhyw empathi nag edifarhad yn ystod y broses,” ychwanegodd.
Dywedodd yr ail ddioddefwr yn ei ddatganiad bod y profiad wedi effeithio arno “ym mhob agwedd o fy mywyd – yn feddyliol, emosiynol, yn gymdeithasol ac yn broffesiynol”.
“Fe wnaeth hyn achosi problemau iechyd meddwl enbyd i mi, gan gynnwys pryder a meddyliau am hunanladd," meddai.
“Ers i mi fod yn ifanc, roedd gen i freuddwyd pendant a chlir i ymuno a’r awyrlu, fel peiriannydd. Cafodd y freuddwyd yna ei gipio i ffwrdd ohonof.
“Collais fy hunan werth ac fe wnes i ddioddef gyda phroblemau iechyd meddwl. Nid oeddwn yn gallu cwblhau fy astudiaethau yn y chweched ddosbarth yn yr ysgol, na mynd i’r brifysgol, ac mi wnes i fethu allan ar geisio dilyn ail yrfa fel parafeddyg.
“Fe wnaeth y cam-drin achosi difrod seicolegol sylweddol i mi.”