Teyrnged teulu i fenyw 18 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr

Teyrnged teulu i fenyw 18 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr

Mae teulu menyw 18 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad car yn Sir Gaerfyrddin wedi rhoi teyrnged iddi.

Roedd Sally Allen yn dod o Gei Cresswell, Sir Benfro.

Bu farw Ms Allen ar ffordd yr A40 rhwng Caerfyrddin a Llandeilo ddydd Mercher.

Wrth roi teyrnged iddi ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd ei mam mai “yr unig beth sydd gennym ni nawr i gofio am ein Sally hardd yw atgofion a lluniau”. 

“Gadewch i ni roi gwybod iddi pa mor arbennig oedd hi i gynifer o bobl.

“Mae'r twll wyt ti wedi'i adael Sal yn enfawr a does gen i ddim syniad sut y byddwn ni byth yn ymdopi hebddat ti. 

“Mae angen i ni dy gadw'n fyw yn ein meddyliau. Caru chdi am byth fy 'merch fach' xxxx.”

Y Sioe Fawr

Dywedodd Clwb Ffermwyr Ifanc Martletwy mewn teyrnged ddydd Gwener ar y cyfryngau cymdeithasol bod Sally Allen wedi marw "wrth ddychwelyd o'r Sioe Frenhinol fore Mercher.

"Sally oedd y person cynnesaf a mwyaf cariadus a chyda'i gwên fawr, byddai'n goleuo'r ystafell. 

"Roedd hi bob amser yn hael iawn gyda'i chwtshis ac yn rhydd gyda'i chyngor. Roedd hi'n ffrind i bawb, ifanc neu hen."

Bydd Ewcharist yn cael ei gynnal yn Eglwys Jeffreyston am 10.30am ddydd Sadwrn i weddïo drosti.

Fe wnaeth Ysgol Greenhill yn Ninbych y Pysgod hefyd roi teyrnged iddi.

Bydd yr ysgol ar agor ddydd Llun 28 Gorffennaf o 10:00-12:00 i gynnig lle tawel, cefnogol i ddisgyblion, ffrindiau ac aelodau'r gymuned ddod at ei gilydd.

“Rydym yn drist iawn wrth glywed am farwolaeth Sally Allen, aelod gwerthfawr a pharchus iawn o gymuned Ysgol Greenhill,” meddai datganiad yr ysgol.

“Mae'r newyddion wedi dod fel sioc anferth i ni i gyd, ac mae ein meddyliau a'n gweddïau diffuant gyda theulu Allen a phawb a oedd yn adnabod ac yn caru Sally yn ystod cyfnod mor anodd.”

Gwrthdrawiad

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ddydd Mercher eu bod wedi cael eu galw i wrthdrawiad rhwng dau gerbyd am 08:00 fore Mercher ar ffordd yr A40 rhwng Caerfyrddin a Llandeilo.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng cerbyd Renault Clio coch a cherbyd Audi Q5 glas. 

Bu farw'r fenyw oedd yn gyrru'r Renault yn y fan a'r lle. 

Fe gafodd y teithwyr yn y cerbyd arall eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau nad ydynt yn peryglu bywyd. 

Fe gafodd y ffordd ei chau ar gyfer ymholiadau cychwynnol cyn ail-agor yn ddiweddarach. 

Llun teulu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.