
'Fydd ‘na ddim gweithlu ar ôl': Rhybudd undeb addysg wrth i fwy o athrawon adael y maes
'Fydd ‘na ddim gweithlu ar ôl': Rhybudd undeb addysg wrth i fwy o athrawon adael y maes
“Fydd ‘na ddim gweithlu ar ôl” - dyna rybudd un undeb addysg wrth iddyn nhw ddweud bod mwy a mwy o athrawon yn gadael y maes.
Yn ôl Ioan Rhys, Ysgrifennydd Cyffridenol UCAC, mae’n rhaid mynd i’r afael â’r “pwysau gwaith aruthrol” sy’n wynebu athrawon os yw Cymru am weld mwy o bobl yn dod yn athrawon.
“Ma deud bod gan athrawon 13 wsos o wylie y flwyddyn a deud bod nhw ond yn gweithio naw tan dri neu handi tri, dydy hwnna ddim yn rhoi y delwedd cyfan i chi” meddai.
“Ma na gyfarfodydd ychwanegol gan ysgolion, mewn rhai ysgolion ni’n son am ddwy, tair awr ychwanegol yr wsos. Ar ben hynny, pryd ma athrawon yn cal amser i baratoi ag i asesu gwaith?”
Gyda rhai o aelodau UCAC yn gorfod gweithio drwy gydol eu hawr ginio, neu yn aml tan 10:00 y nos, ma ‘na bryder bod mwy a mwy yn pederfynu gadael y proffesiwn.
Un sydd wedi rhoi’r gorau i’w swydd fel athrawes llawn amser yn ddiweddar yw Ffion Mai Jones o Landygai ger Bangor. I’r fam i ddau o blant, roedd camu i fyd busnes ac agor stiwidio ewinedd yn ei chartref yn “benderfyniad mawr i neud ar y pryd”.

“O fy mhrofiad i, mi fyswn i’n aros yn yr ysgol tan tua 5, dod adra fysa hi’n fatar o neud te, setlo pawb a gorod mynd nôl wedyn i neud mwy o waith. Hyd yn oed yn y gwylia ma na dal waith i'w neud ac os ma na rwbaeth da chi heb neud yn ystod amser ysgol yna ma rhaid chi neud o yn amser eich hun i ddal fyny.”
Er ei bod yn disgrifio dysgu “fel swydd oedd yn dod a boddhad mawr i mi, wrth i mi fagu teulu doedd y gofynion ddim yn cyd-fynd efo fy mywyd personol i”.
Erbyn hyn mae Ffion hefyd yn dysgu cyrsiau trin ewinedd ac yn angerddol am ysbrydoli eraill am y byd busnes.
“O ran fi fel person dwi sgafnach fy meddwl oherwydd does gen i ddim y pwysa gwaith a’r gofynion sydd yn dod efo’r swydd”.
“Mae on swydd sydd mor, ma’n anodd cal y balans, dwi’n shwr bod na athrawon sy’n gallu cal y balans, felly oni’n teimlo odd on rywbeth oedd rhaid fi ail-ystyried a dwi’n lwcus iawn bod fi di troi diddordeb yn swydd dwi’n eu fwynhau yn llwyr.”
Fis dwetha, fe rybuddiodd Cyngor y Gweithlu Addysg fod Cymru ond yn hyfforddi traean o’r athrawon ysgol uwchradd sydd eu hangen yng Nghymru. Yn ôl Ioan Rhys Jones, mae angen i Lywodraeth Cymru “fuddsoddi yn ein hysgolion neu fydd na ddim gweithlu ar ol”.
Mewn ymateb, fe ddwedodd Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gwybod bod ysgolion yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw staff. Rydym yn gwneud cynnydd sylweddol o ran mynd i’r afael â llwyth gwaith staff, ac mae gennym gymelliadau ariannol hael i ddenu athrawon newydd mewn pynciau â blaenoriaeth.
“Rydym yn darparu £262.5m arall i’r sector addysg, a hynny ar ben y cyllid pellach i awdurdodau lleol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion.”