Person yn yr ysbyty wedi digwyddiad yn y Sioe Frenhinol
Mae person wedi ei gludo i'r ysbyty wedi digwyddiad yn y Sioe Frenhinol ddydd Mercher.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi cael eu galw am 17:40 ddydd Mercher i ddigwyddiad ar Faes Sioe Frenhinol Cymru.
Fe gafodd un hofrennydd ei hanfon gan y gwasanaeth, ac fe gafodd un person ei gludo i'r ysbyty.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Sioe Frenhinol Cymru: "Rydym yn ymwybodol fod person wedi'i anafu yn ystod yr Orymdaith Fawr brynhawn Mercher, ac fe wnaeth ein tîm meddygol gynorthwyo."