'Un o bersonoliaethau cofiadwy ein cenedl': Teyrngedau i'r Parchedig Huw John Hughes

Huw John Hughes.jpg

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r Parchedig Huw John Hughes sydd wedi marw yn 80 oed. 

Roedd Huw John Hughes yn weinidog, yn ddarlledwr, yn ddarlithydd, yn awdur ac yn un o sylfaenwyr canolfan Pili Palas ym Mhorthaethwy ar Ynys Môn.  

Ganed Mr Hughes ym Mynydd Llandegai, ac fe aeth ymlaen i astudio ei radd ym Mhrifysgol Bangor.

Wedi cyfnod fel athro yn Ysgol Glan Cegin, Maesgeirchen, ac fel Prifathro Ysgol Pen-y-bryn ym Methesda, fe gafodd ei benodi yn ddarlithydd yn y Coleg Normal.

Sefydlodd ganolfan Pili Palas gyda'i gyfeillion triw, Huw Glyn Evans a'i wraig, Gwenda, ym 1985.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd y cyn-Archdderwydd a chyfaill i Mr Hughes, Y Parchedig John Gwilym Jones wrth Newyddion S4C: "Yr ystrydeb y byddwn yn ei chlywed yn aml yw gymaint o golled yw hi o golli ambell berson mewn marwolaeth. 

"Fu hi erioed yn fwy gwir am neb nag am Huw John Hughes, y naturiaethwr toreithiog ei gyfraniad i lenyddiaeth a gwybodaeth ein hiaith a'n cenedl ni.

"Bydd cenedlaethau o oedolion a theuluoedd a phlant yn fythol ddyledus i Huw John Hughes am gyfoethogi eu gwybodaeth am fyd natur. 

"Drwy'r cyfan fe gyfoethogodd ein hiaith a'n diwylliant yn arbennig mewn perthynas â'n hamgylchfyd."

Ychwanegodd Y Parchedig John Gwilym Jones: "I'r rhai ohonom a ddaeth i'w adnabod fe gofiwn am byth y cymeriad tawel a diymhongar a oedd iddo. 

"Bydd plant ac unigolion a theuluoedd yn fythol ddiolchgar iddo am ei bresenoldeb mewn ystafell ddosbarth ac ysgoldy ac ar aelwyd."

'Naturiaethwr o galibr arbennig'

Dywedodd un o'i ffrindiau a'r cyn-brifathro, Ian Keith Jones, wrth Newyddion S4C: "Oedd o'n naturiaethwr o galibr arbennig, oedd o'n ddyn eithriadol o garedig ac wrth gwrs, oedd ei ddiddordeb o ym myd natur, oedd o'n heintus. Roedd ganddo hefyd hiwmor arbennig."

Roedd Mr Jones yn gweithio yng nghanolfan Pili Palas o dan arweiniad Mr Hughes. 

"Pan o'n i'n gweithio ym Mhili Palas, oedd o'n ddarlithydd yng Ngholeg Normal a fo na'th berswadio fi i fynd i mewn i fyd addysg," meddai.

"Mae gen i lot fawr i ddiolch i Huw fel person sydd wedi arwain a fy nhywys i drwy fy nghyrfa a hefyd fel ffrind agos, agos."

Ychwanegodd cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg Geraint Tudur wrth Newyddion S4C: "Oedd ei gyfraniad o yn sylweddol, oedd o'n awdur cynhyrchiol dros ben ond yn ychwanegol at hynny, oedd genna fo bersonoliaeth ddymunol gynnes a pharodrwydd i neud yn dda efo bobl, ryw haelioni ysbryd yn deillio o'i argyhoeddiad a'i ffydd Gristnogol o.

"Heb amheuaeth, mae ei ddylanwad o yn fawr iawn mewn amrywiol feysydd, oedd o'n ddarlledwr poblogaidd oherwydd ei wybodaeth gyfoethog am amrywiaeth o bynciau fel naturiaethwr, fel gweinidog, fel athro, ond mi oedd genna fo lais oedd rywun yn ei adnabod ar unwaith."

'Yn uchel ei barch gan bawb'

Mewn teyrnged iddo, dywedodd Aled Davies ar ran Cyngor Ysgolion Sul a Chyhoeddiadau’r Gair: "Roedd yn weinidog blaengar a mentrus, yn bregethwr hynod boblogaidd, ac yn uchel ei barch gan bawb. 

"Go brin y gwelir eto awdur Cristnogol mor amryddawn a dawnus, gyda’r gallu a’r egni i baratoi dros 35 cyfrol - pob un ohonynt gyda gwaith ymchwil manwl a thrwyadl."

Bydd cyfrol olaf Y Parchedig Huw John Hughes, Dyrys Daith, yn cael ei chyhoeddi yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.