Christian Eriksen ar ei ffordd i'r Cae Ras?

Llun: Reuters
Christian Eriksen

Mae adroddiadau fod Clwb Pêl-droed Wrecsam yn ceisio arwyddo cyn-chwaraewr Manchester United, Christian Eriksen.

Mae Eriksen, 33, yn rhydd o unrhyw gytundebau ar ôl i'w gyfnod yn United ddod i ben ar ddechrau'r haf, ac os byddai Wrecsam yn llwyddo i'w ddenu i'r Cae Ras, fe fyddai'r diweddaraf i gryfhau'r garfan ar drothwy dechrau'r Bencampwriaeth.

Mae Wrecsam wedi arwyddo nifer o chwaraewyr newydd yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys y cefnwr chwith Liberato Cacace, y chwaraewr canol cae Josh Windass, yr ymosodwr Ryan Hardie a golwr Cymru Danny Ward.

Mewn cyfweliad gyda The Daily Mail, dywedodd asiant Eriksen, Martin Schoots, ei fod am barhau i chwarae yng Ngorllewin Ewrop er bod ceisiadau wedi dod amdano o'r Dwyrain Pell, yr UDA a De America.

Fe fyddai arwyddo Eriksen yn hwb mawr i obeithion clwb Ryan Reynolds a Rob McElhenney, sydd wedi trawsnewid ffawd Wrecsam ers dod yn berchnogion yn 2021.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.