Menyw wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A40 yn Sir Gâr
Mae menyw wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn Sir Gâr fore Mercher.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael eu galw i wrthdrawiad rhwng dau gerbyd am 08:00 fore Mercher ar ffordd yr A40 rhwng Caerfyrddin a Llandeilo.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng cerbyd Renault Clio coch a cherbyd Audi Q5 glas.
Bu farw'r fenyw oedd yn gyrru'r Renault yn y fan a'r lle.
Mae ei theulu agos wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Fe gafodd y teithwyr yn y cerbyd arall eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau nad ydynt yn peryglu bywyd.
Fe gafodd y ffordd ei chau ar gyfer ymholiadau cychwynnol ac mae bellach wedi ei hail-agor.