Dyn wedi marw ddiwrnod ar ôl ymosodiad ger tafarn

Picture House, Glyn Ebwy

Mae dyn 52 oed wedi marw ddiwrnod yn unig ar ôl ymosodiad y tu allan i dafarn yng Nglyn Ebwy.

Hefyd, mae dyn 45 oed o'r un ardal wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd swyddogion o Heddlu Gwent eu galw i Stryd y Farchnad yng Nglyn Ebwy am tua 11.25 ddydd Mawrth 22 Gorffennaf, yn ymateb i adroddiad o ymosodiad.

Fe ddioddefodd y dyn 52 oed oedd yn lleol i ardal Glyn Ebwy, ymosodiad tu allan i dafarn The Picture House yn y dref.

I ddechrau, fe wrthododd y dyn fynd i’r ysbyty am driniaeth, ond ddiwrnod yn ddiweddarach fe gafodd ei ganfod yn anymwybodol mewn cyfeiriad ar Stryd y Brenin, Glyn Ebwy.

Cafodd swyddogion yr heddlu a chriw ambiwlans eu galw i’r eiddo, ble gadarnhawyd fod y dyn wedi marw.

Mae'r heddlu wedi rhoi gwybod i’w deulu ac maen nhw’n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau eu bod wedi cyfeirio eu hunain i’r Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dilyn y digwyddiad, “sy'n unol â gweithdrefnau arferol”.

Mae’r llu hefyd yn apelio am wybodaeth gan unigolion a fyddai wedi bod yn nhafarn The Picture House rhwng 9.00 a 11.30 ddydd Mawrth

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.