‘Oedd o yn un hunllef mawr’: Diffyg gofal ar ôl colli babi

Y Byd ar Bedwar

‘Oedd o yn un hunllef mawr’: Diffyg gofal ar ôl colli babi

Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl yma beri gofid i rai.

Mae mam o Ben Llŷn yn dweud na chafodd gyswllt gan Ysbyty Gwynedd am dri mis ar ôl colli ei babi. 

Mae Becky Hughes yn galw am welliannau i’r gofal mewn profedigaeth yn Ysbyty Gwynedd, ym Mangor wedi iddi eni ei mab Twm yn farw-enedigol fis Tachwedd llynedd. 

“Oedd o jyst yn teimlo fel un nightmare mawr,” meddai Becky. 

Yn dilyn pryderon bod Becky ddim yn teimlo symudiad fe benderfynodd fynd i Ysbyty Gwynedd. Ar Dachwedd 1 2024, cafodd Becky wybod bod Twm wedi marw yn y groth yn 37 wythnos.

Fe gafodd Becky driniaeth o ysgogi genedigaeth y babi a’i hanfon adref yr un diwrnod. 

“Ges i fy ryshio i bereavement room ag natho nhw ddweud rhaid ni yrru chdi adra, inducio chdi a gyrru chdi adra ac oni meddwl dwi’n byw awr i ffwrdd, da chi’n inducio fi be os dwi’n cael poena, be sydd yn mynd i ddigwydd? 

"Dwi’n fam am y tro cynta - dwi’m yn gwybod be i ddisgwyl.”

Cafodd Twm ei eni ar Dachwedd 3 2024. 

Image
Becky Hughes ac ei phartner Huw gyda eu mab Twm
Becky Hughes ac ei phartner Huw gyda eu mab Twm 

Yn ôl Becky, heblaw am drafodaeth am post mortem Twm yn fuan ar ôl ei eni, wnaeth hi ddim derbyn galwad ffôn gan fydwraig brofedigaeth Ysbyty Gwynedd am gyfnod o fwy na thri mis. 

Daeth yr alwad honno ar ol i Becky ddychwelyd i'r gwaith, pa gafodd ei holi am ganlyniad y post mortem. 

“I fi ma’ rywbeth bach yn dod a pob dim yn ôl a dwi’n mynd i’n gwaith i gal distraction mewn ffordd… a nes i jyst rhewi," meddai.

“O’dd rhaid i fi ista lawr am chydig a jyst trio prosesu, pam bod hi heb gysylltu’n gynt."

Mae’r profiad wedi golygu bod Becky wedi colli ffydd yn Ysbyty Gwynedd, meddai.

“Ma’ jyst y gofal dwi wedi cael wedyn, a dydw’i heb gael gofal actually," meddai. 

"Fedra i ddim meddwl mynd yn nol yna, fedrai ddim. ‘Da ni wedi cytuno i fynd i Lerpwl i eni tro nesa gobeithio. 

"Gofal -  ‘na’r oll dwi’n gofyn am.” 

Galw am weithredu 

Mewn rhifyn diweddar o raglen Y Byd ar Bedwar ar S4C, roedd mamau yn galw am weithredu i wella gofal mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd.  

Fe wnaeth y rhaglen siarad gyda mwy nag 10 o famau sy’n codi pryderon difrifol am y gofal a gafwyd gan Uned Famolaeth yr ysbyty, sydd o dan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. 

Roedd y cwynion yn amrywio o ddiffyg gofal ac empathi gan fydwragedd ar ôl i fabanod farw, i bryderon bod staff ddim yn hyderus wrth ddefnyddio offer meddygol. 

Fe gyhoeddwyd adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ym mis Mehefin a oedd yn nodi fod angen gweithredu “ar frys” er mwyn mynd i’r afael â “phryderon am ddiogelwch cleifion” ar uned famolaeth yn Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae darparu gofal diogel yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchaf i ni, ac rydym wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf ar draws ein holl wasanaethau mamolaeth. 

"Rydym yn annog unrhyw un sydd â phryderon i gysylltu â ni’n uniongyrchol fel y gallwn ymchwilio’n drylwyr iddynt a’u cefnogi.

“Rydym yn arbennig o falch o’r adborth cadarnhaol gan fenywod sy’n defnyddio ein gwasanaethau, yn enwedig eu gwerthfawrogiad am y gefnogaeth y maent wedi’i derbyn yn ystod eu taith mamolaeth. 

"Rydym hefyd yn falch bod yr adroddiad hwn yn cydnabod ein gwasanaeth profedigaeth arbenigol a’n Clinig Enfys, sy’n darparu gofal hanfodol i fenywod yn dilyn colli beichiogrwydd.” 

Mae modd gwylio Y Byd ar Bedwar, ‘Etta: Merch fach, methiant mawr’ ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.  

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan yr erthygl hon, mae cymorth ar gael fan hyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.