Pryder am ddiogelwch teganau Labubu ffug sydd ar y farchnad yng Nghymru

Pryder am ddiogelwch teganau Labubu ffug sydd ar y farchnad yng Nghymru

Mae cynghorau sir yng Nghymru yn rhybuddio cwsmeriaid y gall fersiynau ffug o deganau sydd wedi derbyn sylw mawr ar y cyfryngau cymdeithasol, achosi risgiau diogelwch difrifol i blant ifanc.

Ond beth yn union ydy'r teganau sy'n cael eu hadnabod fel 'Labubu', ac sydd wedi gyrru cwsmeriaid ar draws y byd i eithafoedd pell i gael eu dwylo ar y tegan?

Mae'r doliau Labubu sydd i'w gweld ar gyfrifon TikTok o bedwar ban byd, yn ddoliau meddal tebyg i gorachod ffuglennol gyda rhes o ddannedd rhyfedd, wedi bod yn hedfan oddi ar silffoedd ac wedi sbarduno ciwiau hir mewn siopau ledled y byd, a tydi Cymru ddim yn eithriad.

Wedi'i lansio yn 2019, mae teganau Labubu wedi bod yn allweddol yn nhwf cwmni Pop Mart, sef cwmni teganau poblogaidd o Tsiena i ddod yn fusnes mawr, gan weithredu mewn mwy na 2,000 o beiriannau gwerthu a siopau ledled y byd.

Ond wrth i'r farchnad ddu drio manteisio ar dwf ym mhoblogrwydd y tegan mae dau o gynghorau sir yng Nghymru wedi cyhoeddi rhybudd wrth i bobl geisio prynu fersiynau ffug o'r tegan meddal.

Mae prisiau'r Labubu gwreiddiol yn dechrau oddeutu £17, ond mae rhai wedi gwerthu am dros gannoedd o bunnoedd wrth i'r galw amdanynt gynyddu.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chyngor Gwynedd wedi cyhoeddi rhybuddion am ddiogelwch y fersiynau ffug, gan nodi fod safon gwneud y teganau ffug yn israddol, ac y gall plant bach dagu ar ddarnau o'r tegan.

Yn ôl Cyngor RCT, mae eu tîm safonau masnach wedi bod yn ymchwilio i werthwyr y teganau ffug dros yr wythnosau diwethaf, gan ddod o hyd i ddros 32 o gylchoedd allweddi (keyrings) a 95 o focsys yn cynnwys y Labubu's ffug (sydd yn cael eu cydnabod fel Lafufu's) a hynny ddim ond yn ardal Pontypridd. 

Dywedodd Cyngor RCT: “Mae’r neges yn glir; os ydi rywbeth yn swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae’n fwy na thebyg eich bod wedi dod ar draws tegan ffug – rydyn ni yn cynghori pobl sydd eisiau prynu'r tegan yma, i wneud hynny gan gyflenwr cydnabyddedig.” 

Mae Cyngor Gwynedd hefyd yn cynghori prynwyr i gadw llygad am arwyddion o gynnyrch ffug, sy'n cynnwys:

  • Ansawdd gwael neu bwythau gweladwy
  • Dwylo neu draed sy'n torri i ffwrdd yn hawdd
  • Llygaid a all ddod allan
  • Labeli diogelwch cyfreithiol ar goll, fel y marc CE neu UKCA, neu enw a chyfeiriad cyflenwr yn y DU
  • Prisiau sy'n ymddangos yn anarferol o isel


Dywedodd cwmni Pop Mart eu bod yn disgwyl i elw'r cwmni ar gyfer y chwe mis cyntaf o'r flwyddyn eleni i gynyddu o leiaf 350% wrth i refeniw fwy na threblu.

Mae Pop Mart yn fwyaf adnabyddus am werthu teganau mewn "blychau dall" - math o ddeunydd pacio sy'n cuddio ei gynnwys nes ei fod yn cael ei agor. 

Mae'r dacteg farchnata wedi wynebu beirniadaeth ymhlith swyddogion safonau masnach am annog ymddygiad tebyg i gamblo a phrynu cymhellol.

'Gor-brynnu'

Mae Lara Bryant, o Gaerdydd, sydd bellach yn byw yn Llundain, wedi bod yn casglu Labubu's ers blwyddyn ddiwethaf, er mae wedi bod yn ymwybodol o'r tegan meddal lot cyn hynny.

"Dwi wedi cael diddordeb mewn pethau fel Labubu's a 'trinkets' ers i fi bod yn ifanc, a dwi'n credu bod y diddordeb hynny jyst wedi datblygu dros y blynyddoedd."

Fe wnaeth Lara, fel sawl un arall, dod o hyd i'r Labubu's ar TikTok a'r cyfryngau cymdeithasol.

"Dwi'n credu bod poblogrwydd y Labubu's ar TikTok jyst wedi tyfu a thyfu," meddai. 

Ac yn sôn am Lafufu's, dywedodd Lara ei bod hi wedi gweld sawl un ar werth yn Llundain mewn siopau twristiaeth, ac ar wefannau Vinted a Depop.

"Dwi'n credu beth sy'n gwneud Lafufu's yn beryglus yw pan mae pobl ddim yn gwybod eu bod nhw'n rhai ffug."

Nid y fersiynau ffug ydi'r unig broblem yn ôl Lara, a ychwanegodd: "Dwi'n credu bod poblogrwydd Labubu's ar y cyfryngau cymdeithasol fel TikTok wedi dechrau sgwrs o gwmpas or-brynu a gor-ddefnyddio.

"Mae lot o bobl ar TikTok wedi cael eu cyhuddo o or-brynu. Maen nhw'n prynu bocsys a bocsys o Labubu's ac yn ail-gwerthu nhw am bris uchel, neu yn cadw nhw a jyst dim yn defnyddio nhw."

I Lara, mae'n bwysig i fod yn ystyrlon wrth brynu pethau fel Labubu's - rhywbeth y mae hi yn ceisio gwneud pob tro. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.